s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - cottagess4c - cottages

Byngalos Bendigedig

Dwi ddim yn hoff iawn o fyngalos. Mae byngalos isel y Gymru wledig yn enghraifft o bensaernïaeth ar ei gwaethaf. Eto i gyd, mae'n amlwg ein bod ni'r Cymry'n arbenigwyr ar adeiladu'r math hyn o dai. Lle buom ni ar un adeg yn codi bythynnod a ffermydd... byngalos piau hi'r dyddiau hyn!

Felly, pan roedd criw cwmni cynhyrchu Fflic wrthi'n dewis a dethol themâu ar gyfer y gyfres hon, cytunodd pawb bod rhaid i'r hen fyngalo fod yno'n rhywle . P'un ai'ch bod yn eu diawlio neu'n dwli arnyn nhw, does dim modd osgoi'r byngalos fel rhan o hanes Y Tŷ Cymreig. mwy....


Calderbrook Lodge
Mae un o fyngalos cynhara'r wlad yn debyg i'r cartref trefedigol traddodiadol sy'n sail i gynllun byngalos. Er hynny, yn Sweden, nid yr India, mae gwreiddiau Calderbrook Lodge.

Bryndedwydd
Mae ein hail enghraifft o'r 1920au hefyd yn dipyn o bictiwr.

Llys-y-Gwynt
Fel byngalo dormer, mae rhywfaint o risiau yn Llys-y-gwynt, Cwm Tawe. Ond mae’r perchnogion Tom a Jean Rees yn hapus fel y gog yn eu cartref hunanadeiladu.

Llyn Du
Ond, os ydych chi'n dal yn grediniol na all byngalos fod yn brydferth, ystyriwch fyngalo Llyn Du yn Eryri. Dyma i chi dŷ unllawr ar ei orau.

dylunio a chynhyrchu gan