s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - cottagess4c - cottages

Byngalos Bendigedig

Felly, mae'n ymddangos bod y byngalos yn ôl mewn bri - yn union fel roedd y byngalos cynnar yn gartrefi i awduron ac arlunwyr ffasiynol. Ym 1882, bu farw'r arlunydd Cyn-Raffaëlaidd enwog Dante Gabriel Rossetti yn Birchington - gan ennill bri amheus o fod ymysg y cyntaf yn Lloegr i farw mewn byngalo! Mae'r enw Saesneg 'bungalow' yn dyddio'n ôl i 1659, gan darddu o'r gair Hindi 'Bangala', sef 'perthyn i Fengal'. Yn y 1860au, dychwelodd y Cyrnol Bragg o'r India i adeiladu'r byngalo cyntaf yng ngwledydd Prydain - sef porthdy gyda nodweddion Indiaidd yn ardal Norwood, Llundain. Fe'i bedyddiodd 'The Bungalow', a dyma'r enw mwyaf poblogaidd ar dŷ yng Nghymru heddiw, credwch neu beidio.

Pryd aeth popeth o chwith, felly? Un o lyfrau mwyaf poblogaidd y 1970au oedd llawlyfr ar adeiladu'ch cartref eich hun, Bungalow Bliss gan Frank MacDonald. Yn fuan iawn, dechreuodd pobl godi byngalos newydd sbon eu hunain ar hyd a lled cefn gwlad Cymru. Pe bai'r fath beth â 'throsedd yn erbyn pensaernïaeth', mae arna' i ofn y byddai Frank druan yn ei chael hi. Ond y cyfan a wnaeth e mewn gwirionedd oedd cynnig ateb i ddymuniadau cymdeithas ar y pryd. Cartref heb risiau, gyda ffenestri mawr, yn hawdd ei lanhau, ac ambell gorrach concrid yn yr ardd. Perffaith.

Ond dyw pob byngalo ddim yn gyfystyr â charpedi trwchus a cheginau fformica, ac ar ôl ymchwilio i hanes y tai unllawr hyn, roedd rhaid i mi lyncu fy ngeiriau. Mae ambell fyngalo bendigedig yma yng Nghymru (peidiwch â chael haint – ie, fi, Greg Stevenson, yn defnyddio'r geiriau 'bendigedig' a 'byngalo' yn yr un frawddeg), ac mae 4 ohonyn nhw'n cael sylw yn y rhaglen hon. NÔL

dylunio a chynhyrchu gan