| Bryndedwydd
Mae ein hail enghraifft o'r 1920au hefyd yn dipyn o bictiwr. Mae Buddug Rees wedi byw ym Mryndedwydd, Llanfair Caereinion, ers hanner canrif. Ac mae'r enw'n dweud y cyfan! Mae arolwg ymhlith 2,000 o bobl gan gwmni Halifax yn ategu hynny - noda fod trigolion byngalos yn fwy bodlon a dedwydd eu byd na thrigolion unrhyw fath arall o dŷ. Efallai y dylem ni i gyd gael gwared ar yr hen risiau 'na felly!
|
|
|||||||||||||||||


