Calderbrook Lodge
Mae un o fyngalos cynhara'r wlad yn debyg i'r cartref trefedigol traddodiadol sy'n sail i gynllun byngalos. Er hynny, yn Sweden, nid yr India, mae gwreiddiau Calderbrook Lodge. Wyr neb yn union pryd y cafodd ei adeiladu'n gyntaf, ond fe wyddom bod addurnwyr lleol wedi gosod papur wal yno ym 1903.
Dyma glasur o dŷ parod pren (prefab) - gyda phoptai traddodiadol Sgandinafaidd, drysau Gustavaidd, paneli ffretwaith wedi'u haddurno â sêr a chalonnau, ac awyrgylch porthdy hela yng nghanol y wlad. Gyda lleoliad heb ei ail yn un o bentrefi prydferthaf Ceredigion (Rhydlewis), mae'r byngalo arbennig hwn wedi llwyddo i'm hudo i hyd yn oed. Rwyf wedi mopio cymaint arno, fel 'mod i wedi dweud wrth y perchnogion presennol i gysylltu â mi'n ddi-oed petaen nhw byth yn ystyried gwerthu.
|
 |
| Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel |
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
|