Llyn Du
Ond, os ydych chi'n dal yn grediniol na all byngalos fod yn brydferth, ystyriwch fyngalo Llyn Du yn Eryri. Dyma i chi dŷ unllawr ar ei orau.
Yn ogystal â mwynhau un o'r golygfeydd a'r lleoliadau gorau yng Nghymru (cofiwch wylio i gael eich rhyfeddu), dyma dŷ'r gyfres i mi. Gyda muriau gwydr mawr sy'n gwneud i'r fforest edrych fel petai'n dod i mewn i'r tŷ, defnyddiau naturiol ym mhob twll a chornel, a phob ystafell yn agor allan i feranda neu ddec pren sy'n edrych dros y llyn, mae awyrgylch hamddenol braf yma. A dyna hanfod pob byngalo yn y bôn - cartrefi i ymlacio ydyn nhw go iawn. Ac i rywun oedd yn gwingo wrth feddwl am greu rhaglen am fyngalos, rwyf wedi cael tröedigaeth lwyr o weld yr enghreifftiau bendigedig hyn. Rhyfedd o fyd.
|
 |
| Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel |
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
|