Addasu aelwydydd
Mae'n dipyn o her adeiladu unrhyw dŷ, ond mae angen llaw ddeheuig iawn i addasu hen adeilad yn gartref clyd. Mae llawer gormod o ddatblygwyr yn gwneud addasiadau digon amheus - gan ychwanegu ffenestri bwthyn i feudai, ystafelloedd haul ffrâm plastig gwyn i stablau, a simneiau 'gwladaidd' i hen sgubordai.
Gyda phrosiectau addasu adeiladau mor boblogaidd ar hyn o bryd, rydym wedi neilltuo rhaglen gyfan i'r pwnc. Cofiwch wylio yr wythnos yma i weld 4 cartref gwych a arferai fod yn adeiladau tra gwahanol ers talwm.