Hen neuadd eglwys, Bae Caerdydd
Gyda chymaint o adeiladau cefn gwlad yn cael eu haddasu heddiw, mae'n hawdd anghofio am brosiectau addasu cyffrous ar adeiladau segur ein trefi a'n dinasoedd ni. Yn wahanol i'r hen warysau sydd wedi'u haddasu'n fflatiau diddrwg-didda ym Mae Caerdydd, mae hen neuadd eglwys Dylan Griffith yn enghraifft o gynllunio trefol, cyfoes, ar ei orau. Er gwaetha'r lleoliad yng nghanol y Bae, gerllaw lôn brysur, mae'n dawel, braf yn y tŷ hwn.
'Dyma'n hafan fach i yng nghanol bwrlwm y brifddinas', meddai Dylan gan wenu. 'Dwi mor falch 'mod i wedi bwrw gwreiddiau yma.'
Fel yn achos holl berchnogion tai'r rhaglen hon, gall Dylan fod yn falch iawn o'i dŷ – fel lle sydd nid yn unig wedi rhoi dyfodol newydd i hen adeilad segur, ond sydd hefyd yn dangos cynllunio cyfoes ar ei orau ac yn cynnig gofod personol sy’n adlewyrchu ei gymeriad ef a'r adeilad.
|
 |
| Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel |
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
|