Bythynnod Cennen
'Mae'n bwysig iawn cadw'r ymdeimlad o hanes sy'n perthyn i'r adeiladau hyn', meddai'r pensaer Donald Jones. Bydd ei gasgliad o adeiladau fferm ger Llangadog www.cennencottages.co.uk i'w gweld yn y rhaglen hon.
'Er 'mod i eisiau creu lleoedd agored, cyfoes, ro'n i'n gwybod ei bod hi'n bwysig cadw'r nodweddion gwreiddiol fel bod pobl ymhen 50 mlynedd yn ei adnabod fel fferm nodweddiadol i Sir Gâr.'
Roedd Donald yn lwcus bod ganddo glos gwych i roi ei syniadau ar waith, a phenderfynodd yn ofalus pa adeiladau cerrig i'w haddasu a pha rai i'w gadael fel ag yr oeddynt. Gan nad yw pob adeilad yn addas i'w droi'n dŷ, mae’n bwysig gwybod beth i'w newid a beth i'w gadw. Penderfynodd gadw'r to haearn gwreiddiol i ddangos gwreiddiau amaethyddol yr adeiladau.
Gan nad oedd golau naturiol yn llifo i un o'r cytiau, gallai Donald fod wedi cymryd y cam hawdd, arferol, o ychwanegu nenlampau a ffenestri bychain i greu awyrgylch bwthyn. Yn hytrach, cymerodd y cam dewr o osod mur o wydr yn lle'r talcen ansad. Mae'r elfen fodern hon nid yn unig yn cynnig golygfeydd godidog o'r Mynyddoedd Duon, ond hefyd yn cadw at gynllun gwreiddiol yr adeilad mewn 3 o 4 rhan ohono.
'Doeddwn i ddim eisiau dilyn yr arfer poblogaidd o rannu’r sguboriau eang, braf, hyn yn gyfres o focsys bychain', meddai Donald, sydd wedi addasu'r ysgubor yn neuadd fwyta fawreddog â lle i 20.
|
 |
| Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel |
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
|