s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - cottages

Pe baech yn gofyn i rywun ar y stryd beth maen nhw’n meddwl yw'r "tŷ nodweddiadol Cymreig", mae’n debyg y byddent yn disgrifio cartref syml â dwy neu dair ystafell sy’n eistedd wrth odre bryniau gleision. Wel dyna’n union sy’n cychwyn y gyfres hon o'r Tŷ Cymreig – golwg fanwl ar y bwthyn Cymreig.

Yr Hen Ffordd Gymreig o Fyw

Dyma gyfle i edrych o gwmpas bwthyn yn Sir Benfro sydd heb ei newid o gwbl dros y canrifoedd. Wrth odre Carnedd Lleithr, fel perlen wen yng nghanol cefndir lliwiau mwy daearol gweundir Sir Benfro, mae Treleddyd Fawr, cartref Glyn Griffiths. Mae gan hwn do pert o lechi a sment a waliau wedi’u gwyngalchu, ac mae wedi bod yn gartref i Glyn ers y 1930au.


Hefyd yn y rhaglen ceir hanes Dorian Bowen o Drelech, a edrychodd am ddegawd am y fath adeilad a oedd heb ei sbwylio, nes iddo benderfynu mai’r unig ffordd i ddod o hyd i fwthyn yn ei gyflwr gwreiddiol oedd i adfer un a oedd wedi’i esgeuluso. Mae’r ffordd ei fod wedi adnewyddu Bryn Eglur yn brawf o’i ddyfalbarhad a’i benderfynoldeb i achub darn o’i etifeddiaeth leol.

Ond nid sôn am yr hen ddyddiau yw’r cyfan, a bydd y gwylwyr hefyd yn gallu mwynhau edrych ar gartref cyffyrddus Elinor Gwynn yng Nghae Coch, Rhostryfan. Bydd hwn yn dangos unwaith ac am byth ei fod yn bosibl i addasu hen fwthyn traddodiadol ar gyfer bywyd teulu cyfoes.

dylunio a chynhyrchu gan