s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - cottages

Y ‘Prefab’ Hyn yng Nghymru?

Canolbwynt y rhaglen bydd Neuadd Cynhinfa, tŷ rhyfedd yn Nolannog sydd â fframwaith derw. Fe’i hadeiladwyd yn 1509, ac mae’n enghraifft brin o hen arddull o adeiladu, lle roedd y fframwaith derw yn cael ei lenwi gyda phaneli derw ar y tu allan, yn hytrach na’r plethwaith a chlai (‘wattle and daub’) arferol. Yn y 16eg Ganrif, dim ond y cyfoethog oedd yn gallu fforddio defnyddio derw, felly mae’r ffaith bod y tŷ hwn yn arddangos y pren ar bob cyfle yn dangos bod y perchenogion yn benderfynol o frolio am eu cyfoeth.


Cartref godidog hynafol arall yn y rhaglen yw Plas Mawr yng Nghonwy, sydd ar agor i’r cyhoedd o dan nawdd Cadw. O’r holl dai o oes Elizabeth yn nhrefi Prydain, dyma’r un sydd wedi goroesi’r gorau. Fe’i hadeiladwyd rhwng 1576 â 1585 ac mae Cadw wedi sicrhau ei fod wedi’i adfer nôl i’w hen ogoniant.

Bydd Aled a Greg yn teithio hefyd i Lanbedrgoch ar Ynys Môn i ymweld â’r Glyn. Yn y ffermdy rhyfedd hwn ceir nifer o gyfresluniau ar blastr, sydd â lluniau sy’n dyddio o’r 1640au. Mae pob un o’r tai hynafol Cymreig sydd wedi goroesi i’r 21ain Ganrif yn adrodd hanes teuluoedd bonheddig cyfoethog. Maent yn dangos i ni nad oedd Cymru erioed yn llecyn annatblygedig, gan awgrymu bod tai mwyaf crand ein gwlad wastad wedi bod yn adeiladau ymffrostgar a gynlluniwyd i greu argraff ar ymwelwyr.

dylunio a chynhyrchu gan