s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - cottages

Dywediad enwog Napoleon am bobl Prydain yw eu bod yn ‘genedl o berchnogion siop’, ond gallwn ddyfalu ei fod yn cyfeirio at Loegr yn unig, oherwydd does dim dwywaith bod Cymru wedi bod yn genedl o ffermwyr am y rhan helaethach o’r mileniwm diwethaf.

Byddai neb yn anghytuno â’r ffaith bod ffermydd Cymru wedi cael dylanwad enfawr ar olwg y wlad, gan ffurfio’r dirwedd o’u cwmpas.

Treftadaeth Fyw

Ar y llaw arall, mae’n wir i ddweud bod y dirwedd wedi effeithio ar olwg y ffermydd eu hunain, er enghraifft trwy’r dewis o garreg a ddefnyddiwyd, a sut yr adeiladwyd y tai. Defnyddioldeb yw’r rhinwedd pwysicaf ar fferm, sy’n golygu bod yr adeiladau’n tueddu i fod yn rhai syml, diymhongar, nad ydynt yn ymffrostio yn y ffaith eu bod yn adeiladau naturiol prydferth. Mae Aberdeunant, yng nghanol cefn gwlad Sir Gaerfyrddin, yn enghraifft berffaith o dŷ sy’n gweddu â’i amgylchedd.


Bydd gwylwyr yn cael y cyfle hefyd i edrych o gwmpas rhai trysorau cenedlaethol eraill. Roedd Gwastadgwrda, yn Abermeurig ger Llambed, yn un o hoff dai hirion Dr Iorwerth Peate, ond ers dau ddegawd mae wedi bod yn wag. Bellach mae Ffion ac Andrew Davies wedi dychwelyd o weithio yng Nghaerdydd i’w adfer, ac i gadw eu cyswllt teuluol â’r wlad.

Fferm draddodiadol Meirion yw Cae Coch ger Rhydymain, wedi’i adeiladu o greigiau lleol ac yn edrych fel petai ei wedi’i gerfio allan o’r dirwedd. Ers 1957 mae hwn wedi bod yn gartref i Mrs Annie Edwards, ac mae ei chegin wreiddiol yn drysor. Mae’r trefniant traddodiadol o’r ystafell yn rhagori dros y "gegin ffermdy" y gwelwch mewn siopau DIY.

dylunio a chynhyrchu gan