s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - cottages

Pe baech yn gofyn i blentyn dynnu llun o dy, mae’n ddigon bosibl y cewch chi lun o adeilad petryalog â drws yn y canol, ffenestri naill ochr i’r drws a dwy simnai, un bob pen o’r to. Yn ddiarwybod i’r plentyn, byddai ef / hi wedi creu llun o dy Sioraidd.

Clasuron Sioraidd

Mae rhywbeth sy’n gynhenid foddhaol am olwg drefnus a chymesuredd rhyfeddol y ty Sioraidd. Fe drawsnewidiwyd nifer o drefi Cymreig gan steil chwaethus tai trefol y cyfnod, a chawn enghraifft arbennig o hwn yn Y Ty Cymreig wrth i Aled a Greg ymweld â thy yn Llandeilo. Ychwanegwyd llawer at olwg y dref gan chwaeth adeiladwyr Sioraidd, a gellir gweld rhinweddau gorau’r oes yn y cartref hwn sydd wedi aros yn deilwng i fwriad ei gynllunydd.


Rydym yn ffodus yng Nghymru bod gennym berl o dy gan y pensaer John Nash sydd heb ei ddifetha dros y canrifoedd. Fe arhosodd ystâd Llanerchaeron, ger Aberaeron, ym meddiant yr un teulu am ddeg cenhedlaeth, ond bellach mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi agor y ty i’r cyhoedd. Cafodd Llanerchaeron ei gynllunio a’i adeiladu gan Nash ym 1794–96 a hwn yw’r enghraifft gorau o’i waith cynnar. Wedi iddo gynllunio hwn a nifer o dai bonedd eraill i dirfeddianwyr Cymru, fe aeth ymlaen i brosiectau mwy uchelgeisiol, gan gynnwys Pafiliwn Brighton a Phalas Buckingham.

Bydd y rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar gartref Sioraidd yn Laura Place, Aberystwyth, sydd wedi para fel yr oedd ei gynllunydd wedi bwriadu, ac un arall ar Deras Victoria, Biwmaris. Mae rhai steiliau pensaerniol dim ond yn para am ychydig ddegawdau, ond roedd y Cymry’n adeiladu tai ‘Sioraidd’ am ganrif, ymhell i fewn i deyrnasiad Victoria. Bu adfywiad ar y steil yn y 1920au ac eto ar hyn o bryd, gyda nifer o adeiladwyr yn dychwelyd at olygfeydd clasurol yr oes.

dylunio a chynhyrchu gan