Campweithiau Canoloesol
Mae llawer ohonom yn hiraethu am Yr Hen Ffordd Gymreig o Fyw. Yn ffodus, mae gennym rywfaint o dai gwirioneddol hynafol o hyd, sy'n cynnig cipolwg ar fywyd yr oes o'r blaen. A phan rwy'n dweud eu bod nhw'n hen, rwy'n golygu hen - mae pob tŷ yn y rhaglen hon dros hanner mileniwm oed, a gallaf ddychmygu y bydd y rhan fwyaf ohonynt yma o hyd ymhen 500 mlynedd arall.
Cawn hanes 4 o neuadd-dai gorau'r wlad yn y rhaglen hon, pob un ohonynt yn y gogledd.