s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - cottages s4c - y ty cymreig
Llys Hynafol Cochwillan

Mae Llys Hynafol Cochwillan ger Tal-y-bont, Bangor yr un mor drawiadol o hardd heddiw ag yr oedd yn y 1400au. Fe welwch chi bobl yn cerdded i mewn yn hollol geg agored wrth droi eu golygon tua'r to trawst gordd sy'n debyg i'r un yn Neuadd Westminster.

Os yw'n dal i'n rhyfeddu ni heddiw, a ninnau wedi hen arfer gweld adeiladau uchel a pheirianwaith cymhleth, yna dychmygwch beth oedd ymateb pobl y 15g wrth weld y muriau'n fôr o dapestrïau a darluniau cain. Siawns na fyddai'r un enaid byw yn amau grym y siryf lleol, a'i gartref yn ail agos i dŷ Duw. Yn wir, byddai'r crefftwyr hynny oedd yn gyfrifol am greu'r toeon derw trawiadol a chain hefyd wedi gweithio ar eglwysi a chadeirlannau'r oes.

Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel
Llys Hynafol Cochwillan Llys Hynafol Cochwillan
Llys Hynafol Cochwillan Llys Hynafol Cochwillan
Llys Hynafol Cochwillan Llys Hynafol Cochwillan
Llys Hynafol Cochwillan Llys Hynafol Cochwillan
Llys Hynafol Cochwillan Llys Hynafol Cochwillan