s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - cottagess4c - y ty cymreig
Y Faner

Ond er mwyn i'r gwylwyr gael golwg fanylach ar y toeon hynafol hyn, Y Faner, Llanelltud, amdani. Gosodwyd llawr newydd ar y neuadd anferthol hon yn ystod y 1930au. Mae hyn yn golygu bod y preswylwyr sydd yno heddiw'n gallu gweld strwythur hardd y to o'u gwelyau - golygfa sydd ond i'w gweld yn rhai o eglwysi neu gadeirlannau gorau'r wlad i'r mwyafrif ohonom.

Er mai ffermdy ydyw heddiw, mae'n debyg mai cartref Abad Abaty Cymer oedd y lle'n wreiddiol. Ar ôl diddymu'r mynachlogydd, aeth y tŷ i ddwylo ystadau Nannau a Hengwrt cyn i deulu'r perchnogion presennol, Peter a Nia Rowlands, ei brynu. Ar un llaw, mae'n drueni i'r neuadd fawr gael ei rannu'n ddau lawr - ond, ar ôl treulio sawl diwrnod oer yn fferru yn y neuadd-dai hynafol hyn, wela'i ddim bai arnyn nhw am fynnu rhywfaint o gysuron bywyd!

Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel
Y Faner Y Faner
Y Faner Y Faner
Y Faner Y Faner
Y Faner Y Faner
Y Faner Y Faner