s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - Y Ty Cymreig

Sir Forgannwg, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Frycheiniog... dyma rai o'r hen siroedd traddodiadol a oedd yn bodoli am ganrifoedd yng Nghymru cyn yr aildrefnu yn y 1970au.

Bydd S4C yn eu 'hatgyfodi' bob nos Fercher wrth i'r gyfres Y Tŷ Cymreig fynd o sir i sir i ymweld â thai difyr sydd o bwys pensaernïol a hanesyddol.

Yn y cyfresi blaenorol, bu'r cyflwynydd Aled Samuel a'r hanesydd pensaernïol Greg Stevenson a'i gi Minti yn dilyn tai yn ôl eu harddulliau a'u cyfnodau er mwyn ceisio darganfod a oedd yna'r fath beth â'r 'Tŷ Cymreig'.

Ond y tro hwn, yn y gyfres a gynhyrchir gan Fflic, un o gwmniau Grwp Boomerang, mae pob un rhaglen yn cynnig croesdoriad o dai yn ôl y sir, yn amrywio o dai Tuduraidd yn yr 15fed ganrif i dai diwydiannol ddechrau'r 20fed ganrif.

“Rwy'n credu y bydd dilyn yr hen siroedd – mae 13 i gyd - yn dal dychymyg gwylwyr S4C,” meddai Aled Samuel, sy'n byw yn Llandeilo. “Mae llawer ohonom yn gyfarwydd â'r hen siroedd ac ag atgofion am bethau sy'n gysylltiedig â nhw. Yn bersonol, mae'r enwau yn fy atgoffa o fod ym mhafiliwn Eisteddfod yr Urdd ers talwm, gydag enwau'r hen siroedd i gyd wedi'u rhestru wrth iddynt gystadlu yn erbyn ei gilydd.”

Bydd Y Tŷ Cymreig yn dilyn y siroedd yn ôl trefn y wyddor Gymraeg ac felly Siroedd Aberteifi, Brycheiniog, Caerfyrddin, Caernarfon, Dinbych a'r Fflint a gaiff sylw'r gyfres hon, a'r saith arall yn y gyfres nesaf.

Eglura Aled, “Ar ddiwedd y gyfres ddiwethaf, fe ddaethon ni i'r casgliad nad oedd yna'r fath beth â'r 'Tŷ Cymreig' fel y cyfryw a bod tai yng Nghymru o dan ddylanwad ffasiynau ac arddulliau o dros y ffin yn Lloegr ac o ledled Ewrop.

“Yr hyn ddaeth yn amlwg serch hynny oedd bod yna wahaniaethau rhanbarthol ac felly roedd dilyn tai yn ôl eu siroedd yn gam naturiol ymlaen. Mae yna debygrwydd o fewn siroedd unigol oherwydd natur y dirwedd, y garreg, yr amaeth a diwydiant yr ardal.”

Mae'r rhaglen gyntaf yn canolbwyntio ar bedwar tŷ yn Sir Aberteifi, sir frodorol Greg Stevenson. Ymhlith y tai dan sylw y mae plasty Plas y Wern, lle y credir i Harri Tudur aros cyn Brwydr Bosworth, tŷ Fictoraidd hynod yn Aberystwyth a fferm hynafol Tŷ'r Abaty ger Ystrad Fflur.

Ond pa sir yw'r fwyaf diddorol, ym marn Aled? “Rwy'n edrych ymlaen at ymweld â thai yn fy sir enedigol, Sir Forgannwg, ond mewn gwirionedd mae pob sir mor ddiddorol â'i gilydd. Rydym wedi llwyddo i gael hyd i dai diddorol yn y lleoedd mwyaf annhebygol - ac mae rhai o'r tai yma'n haeddu rhaglenni cyfan i'w hunain.”