s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - cottages

Byddwn yn bwrw golwg ar chwaeth uchelwyr Cymru yng nghyfrol yr wythnos hon o’r Ty Cymreig, gan edrych ar amrywiaeth o dai mawr gwledig. Cawn weld sut newidiodd ffasiynau dros bedair canrif, a bydd eu tai yn datgelu llawer am feddyliau’r perchenogion cyfoethog.

Campwaith "Camp" yn Llanfrothen

Plas Brondanw yw’r plasty sy’n cynrychioli’r gorau o agweddau’r 20fed Ganrif, er bod yr adeilad yn dyddio nôl i’r 1660au. Fodd bynnag, yn dilyn tân dinistriol ym 1951 bu’n rhaid i’w berchennog, y pensaer ysbrydoledig Clough Williams-Ellis, adnewyddu’r ty’n gyfangwbl. Ymdrechodd yntau i gasglu nodweddion â chanddynt nifer o ddylanwadau er mwyn creu cyfanwaith unigryw.


Y plasty sy’n cynrychioli’r 17eg Ganrif yw Ty Tredegar, cartref rhagorol y Morganiaid ger Casnewydd. Cliciwch yma er mwyn ymweld â’r wefan swyddogol, neu yma i ymweld â safle Cyfeillion Ty Tredegar. Cadwch eich llygad yn agored am nodweddion hyfryd fel y cerfiadau pren ysblennydd sydd o gwmpas y ty: yn sicr nid oedd y Morganiaid yn poenu o gwbl am arddangos eu cyfoeth.

Mae Nanteos ger Aberystwyth yn adlewyrchu chwaeth uchelwyr y 18fed Ganrif ac mae Plas Glansevern ger y Trallwng yn taflu goleuni ar ffasiynau dechrau’r 19eg Ganrif. Y patrwm sy’n dod yn glir yw i berchenogion plastai mawr Cymru fod yn hoff o gynlluniau llachar, rhodresgar sy’n ymddangos dros ben llestri i’w cymharu â’r steiliau cynnil cyfoes.

dylunio a chynhyrchu gan