Dathlu'r dderwen deg
Os ydych am i'ch tŷ chi bara am byth, yna adeiladwch dŷ derw. Mae'r rheswm yn syml - mae fframwaith derw yn gyfuniad o gadernid a hyblygrwydd. Felly, wrth i'r tir oddi tano symud a suddo, mae tŷ derw’n symud gydag e. Does ryfedd bod tai fframwaith derw eisoes wedi para hanner mileniwm, ac yn debygol o bara am sawl canrif arall.
 |
 |
Ty’n Gerddi
Mae Ty’n Gerddi, bwthyn tlws ger y Trallwng, yn wledd i’r llygad gyda’i do gwellt, ei furiau fframwaith derw hynafol a’i ardd odidog. Nid ty haf bach twt mohono, ond cartref teuluol prysur, yn union fel y bwriadwyd iddo fod.
|