s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - cottagess4c - y ty cymreig
Ty'n Gerddi

Mae Ty'n Gerddi, bwthyn tlws ger y Trallwng, yn wledd i'r llygad gyda'i do gwellt, ei furiau fframwaith derw hynafol a'’i ardd odidog. Nid tŷ haf bach twt mohono, ond cartref teuluol prysur, yn union fel y bwriadwyd iddo fod.

'Mae'n lle gwych i fagu plant,' meddai Myfanwy Alexander, sy'n byw yno gyda'i phedair merch. 'Fe allwch chi fwrw gwreiddiau yma go iawn...efallai ei bod braidd yn hen ffasiwn, ond mae'n ein siwtio ni i'r dim'.

Mae'r ffermdy hwn yn enghraifft wych o sut roedd pobl yn defnyddio fframwaith derw i ddynodi eu statws. Dim ond y tirfeddianwyr mawr yn aml oedd yn gallu cael gafael ar bren derw da. Ychydig iawn o goed a ddefnyddiwyd i godi tai'r werin (coed wedi'i gasglu o'r cloddiau fel arfer), ac mewn bwthyn gweddol o faint, hwyrach y byddai digon o bren derw i adeiladu fframwaith sgwâr syml.

Mewn tai mwy o faint fel Ty'n Gerddi, cafodd y fframwaith ei or-gynllunio'n fwriadol i ddangos mwy o dderw nag oedd ei angen yn strwythurol. Roedd derw yn symbol o gyfoeth, ac roedd defnyddio crefftwr da hefyd yn arwydd o statws arbennig. Yma, mae'r fframwaith coed wedi'i wasgu'n dynn, ac mae'n bosib fod rhai o'r paneli plastr yn rhai derw yn wreiddiol hefyd.

'Mae gwir ymdeimlad o hanes yn perthyn i'r lle hwn,' meddai Myfanwy, 'Dwi ddim yn teimlo cymaint fel perchennog y lle, ond fel gwarcheidwad sy'n gofalu amdano er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau.'

Er bod cartref Myfanwy bellach yn ymddangos yn hafan anghysbell yng nghanol y wlad, fe fyddai wedi bod yn lle hynod ffasiynol yn ei ddydd. Yn wir, gallech ddadlau mai dyma un o dai modern cyntaf Cymru, fel tŷ aml lawr a adeiladwyd yn y 16g. Byddai wedi bod yn dra amlwg yng nghanol yr holl neuadd-dai agored a oedd yn boblogaidd yn yr oesoedd canol, ac a oedd yn dal i fod yn gartrefi i lawer. Yn wahanol iawn i'r tai agored hyn â digonedd o le, cafodd ystafelloedd y tai fframwaith derw eu cynllunio i fod yn breifat, ac roedd hi'n hawdd eu cadw’n gynnes diolch i simnai bren enfawr yng nghanol y tŷ - gwres canolog cynnar i bob pwrpas.

Golyga'r ffaith bod gan y prif ystafelloedd derbyn nenfwd, y byddai'r ystafelloedd wedi bod yn gyfforddus, ac roedd modd gwthio'r gwelyau yn y llofftydd yn erbyn y simnai bren i gadw'n gynnes braf drwy'r nos.

'Mae hi mor glyd a chynnes yma', cytuna Myfanwy, ' - nid yn unig mae'n hawdd i'w gynhesu, ond mae'n teimlo'n fendigedig hefyd. Dwi mor falch o'r cyfle i gael byw yma, ac mae'r merched wrth eu boddau hefyd.'

Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel
Ty'n Gerddi Ty'n Gerddi
Ty'n Gerddi Ty'n Gerddi
Ty'n Gerddi Ty'n Gerddi
Ty'n Gerddi Ty'n Gerddi
Ty'n Gerddi Ty'n Gerddi