s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - cottagess4c - y ty cymreig
Yr Hen Ffordd Gymreig o Fyw

Wrth odre Carnedd Lleithr, fel perlen wen yng nghanol cefndir lliwiau mwy daearol gweundir Sir Benfro, mae Treleddyd Fawr, cartref Glyn Griffiths a’i gathod Ebrill ac Iwan. Mae yntau’n wr sionc sy dros ei bedwar-ugain oed – gyda gwên ddireidus a sbarc yn ei lygaid. Mae gwreiddiau’r teulu yn ddwfn ym mro Cantref Pebidog i’r gogledd o ddinas fechan Tyddewi, ac mae Glyn wedi byw yn y tyddyn hynafol hwn ers 1930.

Bwthyn bychan yw Treleddyd Fawr; mae enw pendefigaidd y lle yn gamarweiniol tu hwnt. Dwy stafell lawr llawr, dwy lan llofft, dim stafell molchi, tŷ bach tu fas, a’r nenfwd mor isel nes bod yn rhaid i ymwelwyr blygu eu pennau. Y gred yw bod y bwthyn Gradd II wedi ei adeiladu rywdro rhwng 1640-50, a nid yw’r adeilad wedi gweld fawr o ddiweddaru ers hynny.

O edrych o’r tu allan, mae Treleddyd Fawr wedi cadw’i gymeriad hynafol. Mae muriau carreg trwchus yn cadw’r lle yn gynnes yn y gaeaf ac yn oerach yn yr haf, a hen hen drawstiau yn cadw’r to llechi a sment yn gadarn yn eu lle. Ond mae cymeriad hynafol y bwthyn yn amlwg drwy’r tŷ i gyd. Oes, mae gan Glyn Griffiths gyflenwad trydan, a dwr trwy bibau – er fod ’na ffynnon o ddwr glân croyw wrth ddrws y cefn, a do fe harddwyd y bwthyn yn go ddiweddar yn ei hanes hir (eto mor ddiweddar â’r 60au). Fodd bynnag, wnaeth y newidiadau hyn ddim amharu ar einioes yr hen dy. Mae’n hawdd camu nôl mewn amser a dychmygu hen drigolion y fro yn byw a bod yn y tyddyn hwn, gyda’r hen Simne Fawr yn dal yn agored ac yn ddu gan huddug y canrifoedd, y parwydydd yn rhannu’r stafelloedd, y bachau i hongian y mochyn, y celfi trwm tywyll mawr, a’r welydd di-blaster heb yr un wyneb wastad.

Unig gonsesiwn Glyn Griffiths i fyw bywyd modern yw ei dân trydan, ei set deledu-a-fideo-mewn-un ar y bwrdd yn y gornel, ei radio, a’i beiriannau tâp. Dyw e ddim yn gredwr o gwbwl mewn gwres canolog, sy’n meddalu’r corff medde fe.

Wnaeth Glyn Treleddyd Fawr fyth briodi. Mae ei frawd hynaf James, sy’n 84 oed, yn dal i fyw yn Nhyddewi, ac mae’r ddau yn gweld ei gilydd yn aml. Ond be ddigwyddith i’r hen dyddyn, sy’n atsain o’r hen ffordd Gymreig o fyw, unwaith y bydd Glyn ei hun yn ein gadael ni? Does gan ei neiod fawr o ddiddordeb yn y bwthyn. "Bydd y lle’n câl ei adnewyddu fwy na thebyg," medde fe’n syber. "Sdim sicrhad geith e’i gadw fel hyn, ond sana i’n boddran amdano fe. Wên i wedi gadw fe fel oedd mam a dad am gadw ei fe". Mae’r tyddyn gwyngalch ar y garn yn dysteb deilwng i’w gyndeidiau, ac yn adlais amhrisiadwy o’n gorffennol i’r gweddill ohonom. A dyna yw Treleddyd Fawr, trysor o’n hetifeddiaeth sy wedi aros yn ddigyfnewid yn wyneb holl ddatblygiadau’r Gymru gyfoes.

Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail