Treftadaeth Fyw
Os ydych yn gofyn i rywun i ddychmygu ffermdy traddodiadol Cymreig, maen siwr y cewch chi ddisgrifiad syn eitha tebyg i ffermdy Aberdeunant, ger Talyllychau yn Sir Gaerfyrddin. Yn eiddor Ymddiriedolaeth Genedlaethol, maer tenantiaid Huw a Bethan Williams yn gofalu am y tŷ-to-gwellt, syn edrych fel ei fod wedi cysgu trwyr 20fed Ganrif, pan gafodd cynifer o adeiladau tebyg eu moderneiddio.
Fodd bynnag, roedd yn rhaid ir Ymddiriedolaeth dreulio blynyddoedd yn adfer y tŷ er mwyn creur ddelwedd hyfryd hon. Ond yr hyn syn gwneud Aberdeunant yn arbennig heddiw yw mai nid ywn ddarn amgueddfa, ond yn hytrach dyma fferm syn byw ac syn gartref i deulu ifanc. Cerddwch i fewn a byddwch yn teimlo cynhesrwydd go-iawn, nid awyrgylch oer arddangosfa hanesyddol.
"Maen siwr ein bod ni wedi sylweddoli am y tro cyntaf ei fod yn dy arbennig pan ofynnodd athro Rhodri os oedd en gallu dod âr dosbarth i edrych o gwmpas y tŷ! Yna, yr wythnos ganlynol, fe ddaeth dosbarth arall. Mae plant wrth eu boddaun dringor hen grisiau maen. Efallai fod hynnyn eu hatgoffa o dwr castell!"
Pan brynodd yr Ymddiriedolaeth y fferm, fe ddaeth gyda llawer or dodrefn gwreiddiol, gan gynnwys rhai darnau lleol arbennig fel cadair "ffyn" Sir Gâr, cloc mawr lleol a seld gornel. Fel rhan ou cytundeb fel tenantiaid, maen rhaid ir teulu Williams agor dwy or ystafelloedd mwyaf nodedig ir cyhoedd unwaith bob mis yn yr haf. Ond a ydin drafferthus i gael pobl estron yn busnesa o gwmpas eu hystafell wely?
"Na, a dweud y gwir. Chin cyfarwyddo at y syniad, ac rydym ni wedi cwrdd â llawer o bobl ddiddorol syn frwdfrydig dros ein treftadaeth. Mae hwn yn wir yn dy arbennig, ac yn fan hyfryd i fagu teulu" meddai Bethan. "Ond yr hyn syn fwyaf arbennig i ni ywr teimlad o gymuned. Mae pawb yn estyn cymorth, gyda phethau mawr fel adeg y cneifio a chydar pethau bychain fel benthyg paned o siwgr. I ni, dynar ffordd draddodiadol Gymreig o fyw."
|
 |
| Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel |
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
|