Y Prefab Hynaf yng Nghymru?
Fel maer enwn awgrymu, roedd hwn yn wreiddiol yn Dy Neuadd; math o dy a oedd yn gyffredin yng Nghymrur canol-oesau. Roedd y rhain yn cael eu hadeiladu o amgylch neuadd un llawr uchel, â thrawstiau agored ac aelwyd a ddefnyddiwyd ar gyfer gwresogi a choginio. Fel arfer, roedd pen uchaf gan y neuadd, lle byddair teulu yn eistedd ar fainc er mwyn bwytau prydau. (Fe ddaw yr ymadrodd "high table" or arferiad hwn).
Fel gyda phob tŷ sydd â hanes syn ymestyn dros bum ganrif, mae Neuadd Cynhinfa wedii addasu dros y blynyddoedd, ond gan fod y rhan fwyaf o newidiadau wedi digwydd yn y 16eg ar 17eg Ganrif, ac felly maen parhau i fod yn enghraifft ryfedd o dy bychan yr uchelwyr. Fe gafodd y rhan fwyaf o dai neuadd eu haddasu gan ychwanegu lloriau a simneiau ar y tu fewn, ac nid yw Neuadd Cynhinfa yn eithriad. Ychwanegwyd y simne fawr oddeutu 1550.
Gwnaethpwyd y gwaith adfer dros y degawd diwethaf gan Nerys ac Emyr Wyn Jones. Mae yntaun cyfaddef "Ein syniad cyntaf oedd i ddymchwel popeth a dechrau or dechrau, ond unwaith i ni ddechrau cymryd y waliau modern i lawr a darganfod y strwythur o dderw, fe wyddom fod rhywbeth arbennig iawn gyda ni fan hyn."
Cafodd tai fframwaith derw fel Neuadd Cynhinfa eu rhagsaernïo gan y pensaer (hynny yw, y prif saer : dim ond yn ddiweddarach y daeth y gair i olygu architect). Yna fe godwyd y tŷ lle bynnag roedd y perchennog yn dymuno. Gan eu bod yn cael eu dal at ei gilydd gan begiau derw, roedd yn bosibl i dai fframwaith derw gael eu symud o leoliad i leoliad.
|
 |
| Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel |
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
|