s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - cottagess4c - y ty cymreig
Campwaith "Camp" yn Llanfrothen

Chwedeg blynedd cyn i Laurence Llewellyn-Bowen ymddangos ar ein setiau teledu gyda’i syniadau theatrig i fywiogi ystafelloedd cyffredin, roedd Clough Williams Ellis yn rhagflaenu mewn cornel dawel o Ogledd-Orllewin Cymru. Fel un a oedd yn dilyn athroniaeth y mudiad "Arts & Crafts", a oedd yn caniatáu pob rhyddid i’r pensaer i greu gweithiau rhamantaidd, roedd Clough yn benderfynol o gael hwyl â’i gynlluniau. Mae ei waith yn rhagorol er iddo gael agweddau fwlgar ac yn atyniadol yn ogystal â thrawiadol. Roedd Clough yn bencampwr yn ei ddull o ddewis a dethol manylion amrywiol i’w cymysgu at ei gilydd – megis plentyn mewn siop losin yn dewis ei ddanteithion ‘pick and mix’. Yn y dyddiau hyn mae athroniaeth adnewyddu yn mynnu bod yn rhaid aros yn driw i’r cyfnod, gyda tu-fewn y tŷ yn gweddu at ei gilydd. Fodd bynnag, agwedd Clough oedd "Os mae’n edrych yn dda, gewn ni wneud e", sy’n golygu bod ei steiliau’n torri pob rheol yn llawlyfr y cynllunwyr cyfoes!

Yn dilyn tân dinistriol ym Mhlas Brondanw ym 1951, a adawodd y waliau ar y tu-allan yn sefyll ond bron dim byd arall, fe aeth Clough ati i adnewyddu’i dy gan ddefnyddio defnyddiau a darnau allan o ddwsinau o dai hanesyddol. Roedd hyn ddigon anarferol mewn cyfnod pan oedd pobl ar draws Prydain yn brysur yn diweddaru adeiladau Sioraidd a thai hen eraill a oedd wedi’u niweidio yn ystod y rhyfel, a’r tuedd oedd i losgi’r deunydd a ddaeth allan o hen dai. Roedd Clough yn ddyn prysur, gan brynu colofnau, porticos, rheiliau ac unrhywbeth a allai addurno’i dy. Yna cafodd y rhain eu gosod ym Mhlas Brondanw mewn ffordd unigryw ac heb boeni o gwbl am beth fyddai cynllunwyr caeth yn meddwl o’r gybolfa. Felly mae colofnau clasurol yn sefyll nesaf at waith plastr rococo a drysau Sioraidd yn agor i fewn i ystafelloedd oes jazz.

O fewn dwy flynedd roedd y cyfan yn barod ac roedd Clough wedi llwyddo i greu golwg ar y tu-fewn sy’n ysbrydoli ac yn diddanu. Gellir gweld ôl y cynllunydd ym mhob cwt a chornel, ac er i lawer o’r darnau unigol ymddangos fel eu bod dros ben llestri, fel cyfanwaith mae’r cyfuniad yn deilwng o athrylith.

Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail