Croeso yn y Cymoedd
Maer rhubanau o dai teras syn nodweddiadol o Dde Cymru yn un or delweddau mwyaf cyfarwydd am Gymru, gan ddwyn i gof yr ystrydebau o byllau glo, "How Green was My Valley?" a chorau meibion. Bellach maer glofeydd wediu cau ar corau yn llai amlwg, ond maer tai yno o hyd, gan ddarparu tai clyd i deuluoedd Cymreig.
Ond er ir math yma o dy fod yn un tra chyffredin, maen anodd tu-hwnt i ddod o hyd i dy oes Victoria sydd âi stôf fawr haearn ar nodweddion gwreiddiol. Gan fod cynifer or tai wedii hadnewyddu, diolch yn enwedig i gymorthdaliadaur cyngor, does dim llawer ar ôl yn eu cyflwr gwreiddiol. Lle yn yr hen ddyddiau byddai un yn gweld tai-brics-coch, pob un â ffenestri codi tebyg, nawr maen nhw i gyd â "pebbledash" brown â ffenestri uPVC.
Ond fe lwyddodd Y Tŷ Cymreig i ddod o hyd i dy traddodiadol yn Llwynypia sydd âi olwg wreiddiol a hefyd yr awyrgylch cywir cartref croesawgar oes Victoria. Cafodd y tŷ hwn ag wyneb dwbl ei adeiladu ar gyfer prif beiriannydd y glofeydd lleol, ac fel canlyniad maer tŷn cynnwys labordy ar gyfer profi safon y glo. Roedd y perchennog cynt wedi gwrthod cymorthdaliadau i adnewyddur tŷ, ac felly dymar unig dy yn y dref nad oedd wedii drawsnewid. Fel canlyniad fe ddarganfu David a Pat Roberts nifer o nodweddion gwreiddiol annisgwyl pan brynon nhwr tŷ a dechrau ei addasu mewn modd cydymdeimladol.
"Roedd y tŷ mewn cyflwr dychrynllyd pan gyrhaeddom ni roedd yn wir â theimlad bwganllyd" meddai Pat. "Roedd planhigion yn tyfu trwyr ffenestri a oedd wediu torri. Ond roeddwn yn dwli ar yr hen ddrysau ar llefydd tân, ar teimlad mai dyma dy â chanddo lawer o hanes."
Roedd y ffenestri codi wedi pydru, felly roedd yn rhaid creu rhai or newydd ag union yr un cynllun gydar sashes wediu gosod. Cymryd y paent cyfoes oddi ar y llefydd tân gwreiddiol, er mwyn gweld yr haearn bwrw. Yn fuan roedd y cymdogion wedi clywed am y cynllun ac yn cynnig darnau ou tai eu hunain, neun awgrymu llefydd lle gellid dod o hyd i greiriau pensaernïol achubedig.
Cafodd y labordy Victorianaidd ei drawsnewid i fod yn gegin fawr, gydar ffenestri mawr yn goleuor cyfan. Adferwyd ffwrn haearn enfawr i fod yn galon y tŷ unwaith yn rhagor, ac mae hyd yn oed hen gramoffon yng nghornel yr ystafell, sydd o hyd yn diddanur perchenogion.
|
 |
| Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel |
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
|