s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - cottagess4c - y ty cymreig
Clasuron Sioraidd

Mae’n siwr bod pobl y cyfnod Sioraidd yn dra threfnus, gan eu bod nhw wedi sgubo ymaith y patrymau dryslyd a oedd wedi tyfu’n naturiol dros y canrifoedd, gan fynnu bod y strydoedd yn cael eu gosod mewn gridiau rheolaidd, â sgwariau trefnus. Fe wnaethon nhw ddymchwel hen dai â fframwaith o goed nad oedd yn sefyll yn syth, ac yn eu lle adeiladwyd tai unffurf, unionsgwar. Bu iddynt hyd yn oed aildrefnu gerddi fel eu bod nhw’n drefnus ac â phatrymau geometreg. Yng ngolwg pobl yr oes hon, roedd lle priodol i bob peth, ac roedd yn rhaid i bob peth aros yn ei lle.

Mae gan Gymru enghreifftiau arbennig o dai Sioraidd – meddyliwch am y terasau unffurf o gwmpas Sgwâr yr Alban, Aberaeron, neu am drefi marchnad y wlad fel Aberhonddu neu’r Fenni. Mae’r dylanwad Sioraidd yn amlwg yn y rhan fwyaf o ffermdai a adeiladwyd ar ôl 1750 ac mae hyd yn oed bythynnod diymhongar yn benthyg elfennau o gynlluniau’r tai crand fel, er enghraifft, ffenestri ‘sash’.

Ond y man lle cafodd pensaernïaeth Sioraidd y dylanwad mwyaf dwfn yng Nghymru oedd yn y plastai a adeiladwyd yn y trefi. Daethom ni o hyd i dy trefol rhagorol yn nhref farchnad Llandeilo, sydd â hanes arbennig iddo. Adeiladwyd y tŷ’n wreiddiol ar ddiwedd y 17eg Ganrif neu ddechrau’r 18fed, ond fe’i hadnewyddwyd ar ddiwedd y 1700au pan gyrhaeddodd ffasiynau newydd yr oes Sioraidd (a hefyd ychydig o arian!). Mae’r tŷ yma mor fawr nes ei fod bellach wedi’i rannu i ddarparu dau gartref cyffyrddus.

Y tu-ôl i’r blaenau Sioraidd sydd i’w gweld mewn llawer o drefi marchnad Cymru, mae nifer o adeiladau sy’n ganrif yn hyn yn cuddio. I bobl y dref, roedd yn bwysig i greu argraff ar eich cymdogion, ac felly fe benderfynodd llawer o drigolion i ychwanegu at eu cartrefi i arddangos eu cyfoeth. Felly, yn yr oes Sioraidd roedd tuedd mawr i newid golwg flaen y tŷ, gan adeiladu porth ‘neo-classical’ a rhoi ffenestri mawr i fewn – rhywbeth a oedd yn dangos bod y perchennog yn gallu fforddio cynnyrch a gweithwyr o safon. Ar y tu allan roedd yn rhaid cael rendro llyfn i efelychu’r meini nadd ‘ashlar’ sydd i’w gweld ar balasau crand. Yn Llandeilo mae’n bosibl weld y cyfan, yn ogystal â’r drysau a nodweddion gwreiddiol, a hen lifddor wrth y twll grisiau ar gyfer gwacáu padelli gwelyau (gan fod yr adeilad â phedwar llawr!).

Lawr llawr, lle mae’r seleri, ceginau a mannau gweithio’r staff, fe welwn ni ochr arall bywyd yr oes Sioraidd. Gyda’r morwynion yn byw yn ystafelloedd yn y llofft, a’r baslawr yn gweithio dydd a nos i wasanaethu’r teulu, roedd y cartref Sioraidd yn beiriant i ateb gofynion y teulu. Mae ystafelloedd bychain y staff yn yr atig yn gwrthgyferbynnu ag ystafelloedd y teulu ar y llawr cyntaf, a oedd yn gallu edrych allan ar y byd trwy’r ffenestri a oedd yn ymestyn o’r llawr tua’n nenfwd.

‘Galla’i ddod i fewn fan hyn ar ôl diwrnod caled’, meddai Gwenda Rees y perchennog, ac mae’r teimlad o dawelwch mor gryf mae’n gwneud imi ymlacio ar unwaith. Rwy’n dwli ar y ffaith bod y prif lolfa wedi’i lleoli ar y llawr cyntaf fel bod un yn gallu edrych allan dros y Dyffryn’



Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail