Palasau yn y Maestrefi
Fe ymwrthododd y Fictoriaid â rheolau caeth cynllunwyr yr oes Sioraidd, ac yn eu lle fe greon nhw ffasiynau newydd. Roedd eu steiliau yn fwydrus â manylion organig yn perthyn iddynt. Tra bod y bobl gefnog a ystyriai eu hunain yn fonheddig yn para i adeiladu cartrefi yn y dull clasurol, roedd y dosbarth canol newydd yn dewis steiliau neo-Gothig, a oedd i fod i atgoffa rhywun o oes aur gyn-ddiwydiannol.
Efallai fod y tai ychydig yn ddi-chwaeth, yn anghymesur ac yn anghyson, ond fe aeth y steiliau hyn ar draws y wlad, gan wneud argraff pellgyrhaeddol ar olwg ein trefi. Yr arwyddair oedd pastiche, ac felly gellid gweld nodweddion rhyfedd yn nhai crand y maestrefi, fel dylanwadau o Tsiena neur mudiad "Celf a Chrefft", neu agweddau clasurol neu neo-Gothig y cyfan yn yr un tŷ! Roedd busnesau cynllunio mewnol yn ffynnu, y dosbarthau canol yn tyfun gyflym, a ffatrïoedd yn creu cynlluniau a oedd wediu masgynhyrchu gan beiriannau, gan olygu eu bod o fewn cyrraedd llawer o bobl am y tro cyntaf.
Mae tref Llandudno yn enwog am harddwch y cannoedd o adeiladau Fictoraidd, syn darparu cefndir prydferth i fireinder naturiol y lleoliad. Fodd bynnag, nid ywn hawdd i ddod o hyd i dy yn ei gyflwr Fictoraidd gwreiddiol, ac felly roeddem yn ffodus ein bod yn gallu ymweld ag Osborne House, tŷ crand a enwyd ar ôl cartref Victoria ei hunan ar Ynys Wyth. Dros nifer o flynyddoedd mae adfer gofalus wedi sicrhau bod y tŷ yn dychwelyd i edrych fel palas, fel yr oedd y pensaer wedi bwriadu.
Er nad oes unrhywbeth arbennig am olwg allanol y tŷ, âr gwaith maen syn nodedig o ddiwedd y 19eg Ganrif, maen stori arall ar y tu fewn. Bellach maer adeilad yn westy moethus, ac maen llawn gwaith pren goreuraidd, siandelïers crisial a dodrefn drud. Maen edrych ac yn teimlo fel petai boneddigion oes Victoria dim ond newydd ymadael âr ystafell.
Prif ddyletswydd ystafelloedd derbyn yn oes Victoria oedd i greu argraff dda ar y gwesteion, a does dim dwywaith bod Osborne House yn cyfleu naws o foethusrwydd ir ymwelwyr. Maer waliaun dywyll i gyd, y ffenestri wediu gorchuddio gan les ar ystafelloedd wediu gorlenwi â dodrefn yn union fel y bydden nhw yn y 19fed Ganrif. Yn y cypyrddau arddangos mae creiriau sydd wediu casglu tramor ac ar y waliau mae paentiad olew, syn ymddangos fel eu bod wedi bod yn y teulu ers cenedlaethau. Mae teimlad o olud a gormodedd yn yr ystafelloedd syn gorlwytho synhwyraur ymwelydd. Ceir yma foethusrwydd teilwng o balas, wedii cywasgu i fewn i gartref ar gyfer y dosbarth canol sef yn union beth oedd rhinwedd cynlluniau Fictoraidd.
|
 |
| Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel |
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
|