Tŷ Cymreig y Dyfodol?
Mae Malator, tŷ hynod fodern yn Druidstone, wedi ei ddisgrifio fel glasbrint ar gyfer tai Cymru ir dyfodol. Er gwaethaf cael ei adeiladu lai na degawd yn ôl, maer tŷ arloesol a chyfoes hwn eisoes yn enwog ledled y byd fel un o drysorau pensaernïol Cymru. Gydar cyfuniad o gynllun cydymdeimladol a lleoliad rhagorol ar arfordir Sir Benfro, fe swynodd y tŷ Dr Greg Stevenson, arbenigwr pensaernïol Y Tŷ Cymreig. "Fel un syn ennill ei fywoliaeth yn adfer hen fythynnod ac yn darlithio ar bensaernïaeth hanesyddol, doeddwn i ddim yn disgwyl cwympo mewn cariad â thy a adeiladwyd ym 1998. Ond dynan union beth ddigwyddodd pan wnes i ymweld â Malator".
Yn aml byddai newyddiadurwyr syn ysgrifennu am dai yn euog o or-ddefnyddio ansoddeiriau fel hynod a syfrdanol pan yn disgrifio cartrefi ond mae hwn yn haeddur ddwy label. Diolch iw do o laswellt, ei simne ddur ai ddrws twll clo maer tŷ yn cael ei adnabod fel tŷ y Teletubbies, ond does dim byd plentynnaidd am ei gynllun llyfn.
"Dymar math o dy syn herio eich dealltwriaeth chi o adeiladau ar hyn rydych chin disgwyl i dy fod," meddai Dr Stevenson. "Ym Malator, rydych chin un âr môr ar creigiau, maech bywyd chin llawn goleuni ac mae yna ymdeimlad anhygoel o ryddid a gofod. Dymar math o adeilad syn symud pensaernïaeth Cymru ir unfed ganrif ar hugain."
Mae cynllun Malator yn un syml iawn yn y bôn, dim ond un ystafell sydd y tu-fewn, wedii rhannu gan godennau lliwgar, tra bod y cynllun allanol yn cydweddu âr dirwedd oi gwmpas.
"Maen bosib y gallech chi amau y byddai tŷ mor fodern â hwn yn gwrthdaro âi gyffiniau, ag yntau ond ychydig lathenni o lwybr yr arfordir, ond dyw hynnyn sicr ddim yn wir, meddai Dr Stevenson. "Mae ei siâp organig syml yn ymdoddi âr bryniau oi gwmpas ac mae diffyg gardd bendant yn golygu bod y tŷ ai amgylchedd yn asion berffaith âi gilydd.
"Ym Malator rydych yn teimlo undod gydar môr ar clogwyni gwyllt: maech bywyd yn llawn goleuni a cheir teimlad rhyfedd o ryddid a gofod. Dylair bensaernïaeth orau rhoi her ich rhagfarnau am y cartref, neu hyd yn oed newid y ffordd ych chin edrych ar y byd. Dylai wneud i un feddwl am y perthynas rhwng sut ydym nin adeiladu ac addurnon tai a sut ydym yn defnyddio gofod."
|
 |
| Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel |
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
|