s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - cottagess4c - y ty cymreig
Proffil

Mae'r Dr Greg Stevenson yn ddarlithydd Pensaernïaeth Frodorol ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, ac yn rhedeg busnes bach sy'n addasu adeiladau unigryw a hanesyddol.

Mae'n ysgrifennu erthyglau i gylchgrawn Period House a'r Western Mail, ac yn ddiweddar, aeth ati i gyhoeddi fersiwn newydd o glasur Dr Iorwerth Peate 'The Welsh House', gydag ychwanegiadau newydd.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg ym 1997, ac mae bellach yn byw yn Llangrannog, Ceredigion. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.gregstevenson.co.uk



Ci Dalmataidd prin â smotiau coch yw Minti, a aned ychydig cyn troad y mileniwm newydd, i gi Dalmataidd arall Greg, Smotyn. Oherwydd ei lliw anghyffredin, roedd hi'n gwbl wyn tan ei bod yn 12 wythnos oed - oherwydd hynny, hi oedd seren ffilm '102 Dalmatians' Walt Disney, fel Oddball y ci bach Dalmataidd difrycheulyd.

Cafodd ei thrin fel brenhines yn y stiwdio ffilm, gyda'i hyfforddwr a'i chwt bach smotiog ei hun, a châi ei chludo o le i le.

Roedd hi'n gartrefol braf gyda'i chyd-seren Ioan Gruffudd, a siaradai Gymraeg gyda hi.

Heddiw, mae hi'n byw gyda Greg a’i bartner ger Llangrannog, lle mae wrth ei bodd yn rhedeg ar draethau Ceredigion

Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail
Dummy gallery thumbnail Dummy gallery thumbnail