s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
Sir AberteifiSir Aberteifi

Sir Aberteifi

Er mai Sir Aberteifi yw sir genedigol Greg Stevenson, cyfaddefa'r hanesydd pensaernïol fod dod o hyd i dai hynafol yn y rhan hwn o Gymru yn ddigwyddiad prin.

Mi wnaeth Greg ynghyd â'r cyflwynydd Aled Samuel, serch hynny, ddod o hyd i dŷ gwerth ei weld sy'n dyddio yn ôl i'r 15fed ganrif.

Sir Aberteifi yw'r sir cyntaf yn y daith 13 rhaglen o hyd. Mae tŷ Fictorianaidd anhygoel yn Aberystwyth, ffermdy hynafol ger Ystrad Fflur a bwthyn gyda tho tun ger Llanarth yn ymddangos yn y rhaglen. Ond Plas y Wern, plasdy bach ger Cei Newydd, gyda rhan hynaf yr adeilad yn dyddio yn ôl i'r 15fed ganrif, yw uchafbwynt y rhaglen.

Eglura Greg Stevenson, “Mae rhai ardaloedd o Gymru sy'n llawn o dai o'r 15fed ganrif ymlaen, ond nid yw hynny'n wir am Sir Aberteifi. Ar wahân i'r cestyll a rhai eglwysi, nid oes llawer o hen adeiladau yn y sir. Ond dyma hen dŷ o'r 15fed ganrif gydag estyniad o'r 1670au. Nid yw'r ddau ran yn eistedd yn gyfforddus gyda'i gilydd – ac mae hynny'n braf i'w weld, am ei fod yn dŷ sy'n dweud llawer am ddau gyfnod gwahanol.”

Yn rhan Sioraidd y tŷ, mae rhai o'r muriau wedi'w gorchuddio gyda phaneli pren, wedi'w gwneud o bren pinwydd a fewnforwyd o Sgandinafia, mor gynnar a 1670. Yn rhan uchaf y tŷ mae na ystafell anhygoel sy'n debyg i neuadd. Yn y 1930au, pan Alastair Grahan, ffrind yr awdures Evelyn Waugh, oedd yn berchen y tŷ, gwelodd yr ystafell annebygol hwn llawer o bartion gwyllt.


Plac coffa ymweliad Harri Tudur
Un o'r ffeithiau mwyaf diddorol am y tŷ gwreiddiol yw bod Harri Tudur, Harri VII yn hwyrach, wedi aros yno ar ei ffordd i Frwydr Bosworth.

dylunio a chynhyrchu gan