s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - cottagess4c - cottages

O'r Tloty i'r Tŷ Cyngor

Credai Dr Samuel Johnson mai gwir arwydd o wlad wâr oedd ei darpariaeth ar gyfer y tlawd. Os felly, mae Cymru'n wlad hynod waraidd gan fod gennym hanes hir a diddorol o ddarparu tai cymdeithasol - o fynachlogydd hynafol i gymdeithasau tai ein dydd.

Byddwn yn bwrw golwg ar bedair enghraifft wych yn Y Tŷ Cymreig yr wythnos yma, pob un yn torri tir newydd wrth roi cartref da i'r tlawd a'r anghenus mewn cymdeithas.


Undeb Llanfyllin
Yng nghanol mwynder Maldwyn mae'r enghraifft orau o wyrcws sydd wedi para cyhyd yng ngwledydd Prydain.

Elizabeth Owen Terrace
Doedd pethau ddim cynddrwg yn elusendai niferus Cymru. Dyma berlau pensaernïol, wedi'u hariannu'n aml gan noddwyr hael a chyfoethog a gredai y byddent yn cael eu haeddiant yn y nefoedd o wneud hynny.

Gardd-bentref Rhiwbeina
Mae ôl cynllunio da a chwaethus i'w weld yng ngardd-bentref Rhiwbeina, Caerdydd, a adeiladwyd o 1913.

Tŷ Cyngor
Ni fyddai rhaglen am dai cymdeithasol yn gyflawn heb yr hen dŷ cyngor traddodiadol. O'r holl filoedd sydd ar gael, daethom ar draws un enghraifft arbennig iawn yn Llanegryn, Meirionnydd.

dylunio a chynhyrchu gan