s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - cottages s4c - y ty cymreig
Tŷ Cyngor

Ni fyddai rhaglen am dai cymdeithasol yn gyflawn heb yr hen dŷ cyngor traddodiadol. O'r holl filoedd sydd ar gael, daethom ar draws un enghraifft arbennig iawn yn Llanegryn, Meirionnydd. Ar ôl prynu'r tŷ gan y cyngor, aeth Cath Gabriel a'i phartner Lorraine ati i droi lle digon dinod yn dipyn o balas! Gyda wardrob y gallwch gerdded drwyddi, balconi 'Juliette' a thwb poeth mewn gardd wedi'i thirlunio, mae byd o wahaniaeth rhwng y tŷ hwn â bywyd caled y wyrcws ar ddechrau'r rhaglen. 'Rydyn ni wedi mwynhau rhoi ein stamp ein hunain ar y lle,' gwena Cath, 'ac mae'n braf iawn cael plymio i'r twb poeth ar ôl diwrnod caled o waith!' Siawns nad oedd set deledu Plasma a thwb poeth ar feddwl cyngor Meirionnydd pan adeiladwyd y rhes tai cyngor hyn yn wreiddiol – ond ar ôl ymdrochi yn y twb, rwy'n gweld beth yw'r apêl!

Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel
link link
link link
link link
link link
link link