Gardd-bentref Rhiwbeina
Mae ôl cynllunio da a chwaethus i'w weld yng ngardd-bentref Rhiwbeina, Caerdydd, a adeiladwyd o 1913. Y nod oedd cynnig cartrefi wedi'u cynllunio'n dda am bris rhesymol, fel adwaith i slymiau canol y ddinas. Cwmni cydweithredol oedd y tu ôl i'r fenter, a olygai mai'r trigolion oedd landlordiaid a thenantiaid y tai. Mae dylanwad celfyddyd a chrefft yn gryf ar y bythynnod a seiliwyd ar gynlluniau Raymond Unwin (cynllunydd gardd-bentref Letchworth a Hampstead). Mae'r ffotograffydd Huw Walters a'i gymar wedi cael hwyl dda ar adfer un o'r bythynnod,
'Dw i wrth fy modd gyda'r wlad, ond mae'n rhaid i mi fyw ger y ddinas er mwyn y gwaith', esbonia Huw, 'A dyma'r cyfaddawd perffaith – mae'n teimlo fel pentref bach gyda digonedd o goed a lle gwag, ac mae’n teimlo fel lle iach iawn i fyw.'
Diolch i statws adeiladau Gradd II ac Ardal Cadwraeth, mae'r enghraifft gampus hon o gynllunio maestrefol yn sicr o bara i'r dyfodol er bod y cwmni cydweithredol gwreiddiol wedi hen chwalu erbyn hyn.
|
 |
| Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel |
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
|