s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - cottages s4c - y ty cymreig
Elizabeth Owen Terrace

Doedd pethau ddim cynddrwg yn elusendai niferus Cymru. Dyma berlau pensaernïol, wedi'u hariannu'n aml gan noddwyr hael a chyfoethog a gredai y byddent yn cael eu haeddiant yn y nefoedd o wneud hynny. Nid tasg hawdd oedd dewis rhwng elusendai Corwen, Cas-gwent, Llanrwst a Threfyclawdd - ond yn y diwedd, bythynnod bach del Elizabeth Owen Terrace yn Llanfair Dyffryn Clwyd aeth a hi. Maen nhw dan ofal ymddiriedolaeth elusennol o hyd, ac yn gartref i blwyfolion y cylch am rent rhesymol. Aethom draw i weld Delyth Lloyd Jones, a chanfod cartref hardd wedi'i addurno fel plasty braf yn y wlad.

'Mae'n dŷ bychan iawn', cyfaddefa Delyth, 'ond yn hynod o glyd ac yn hawdd ei gynhesu, ac yn llawn cymeriad. Mae pawb sy'n mynd heibio yn dweud pa mor ddel yw'r elusendai hyn.'

Er mai rhes o fythynnod syml 'un i fyny, un i lawr' yw teras Elizabeth Owen, mae'r tu mewn yn goeth dros ben gyda cherrig nadd, ffenestri haearn bwrw gothig, simneiau addurnedig ac aden dywydd. Roedd hyd yn oed y tlawd yn cael mwynhau rhywfaint o steil erbyn canol y 19g, mae'n amlwg!

Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel
link link
link link
link link
link link
link link