Undeb Llanfyllin
Yng nghanol mwynder Maldwyn mae’r enghraifft orau o wyrcws sydd wedi para cyhyd yng ngwledydd Prydain.
Mae adeilad nodedig Undeb Llanfyllin www.lanfyllinworkhouse.org.uk yn dilyn cynllun nodweddiadol – wedi’i rannu’n bedwar, gyda chlos ar wahân i’r dynion, menywod, bechgyn a merched. Felly, roedd teuluoedd yn cael eu gwahanu’n syth ar ôl cyrraedd y wyrcws, a mamau’n cael eu gorfodi i fyw ar wahân i’w plant.
Roedd warden yn byw mewn tŵr canolog a gynlluniwyd yn ôl egwyddorion ‘hollweledol’, fel y gallai gadw llygad barcud ar bawb o’i swyddfa.
|
 |
| Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel |
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
|