Rydym yn arfer meddwl bod y Fictoriaid yn bobl sychlyd geidwadol, ond pan edrychwn ar eu cartrefi maen siwr eu bod nhwn fwy mentrus nag yr ydym ni heddiw. Ni fyddai adeiladwyr diwedd y 19eg Ganrif wedi meddwl dwywaith cyn ail-greu bwthyn canoloesol, ychwanegu ffenestri gothig at dy teras neu wario cyfran sylweddol ou harian ar grisiau mawreddog neu lle tân rhodresgar. Roedd gan y Fictoriaid gariad dwfn tuag at eu cartrefi, a gallwn weld pam yn y rhifyn hwn or Ty Cymreig.
Maen bosibl gweld agwedd anturus yr oes Fictoraidd yn nhair cyfnod. Roedd y cynllunwyr yn hoff iawn o ychwanegu manylion pensaernïol a oedd yn grotésg neu wediu gorliwio, a barodd i leisiau ceidwadol eu cyhuddo o fod yn ddi-chwaeth. Fodd bynnag, weithiau maen rhaid torrir rheolau.
Palasau yn y Maestrefi
 |
 |
Maer sawl syn dwli ar bensaernïaeth Fictoraidd yn dwli ar Landudno, ond er gwaethar ffaith bod cannoedd o adeiladau oes Victoria yma, dim ond ychydig sydd wedi cadwr awyrgylch ich atgoffa bod hwn unwaith wedi bod yn fan ir cyfoethog dreuliou gwyliau. Mae Osborne House yn eithriad, ac wedii adfer dros y degawd diwethaf nes bod ganddo unwaith eto awyrgylch palas. |