s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - cottages

Ar ddechrau’r 19fed Ganrif doedd dim ond 600 000 o bobl yng Nghymru, ond erbyn 1901 roedd y rhif yma wedi codi i dros ddwy filiwn, sef bron bedwar gwaith yr hyn yr oedd ganrif ynghynt. Mae’r twf hwn mewn poblogaeth yn sylweddol, ond doedd e ddim yr un peth ar draws y wlad. Roedd y twf yn y siroedd gwledig yn gymedrol ond fe welodd cymoedd De Cymru dyfiant anferthol yn eu poblogaeth. Fe gododd y nifer o bobl ym Morgannwg o 71,000 i 860,000 – hynny yw, dros deuddeg gwaith yr hyn yr oedd ganrif ynghynt.

Roedd diwydiannau trwm Cymru yn eu hanterth. Roedd llechi Gogledd Cymru’n cael eu hallforio ar draws y byd, glo Cymru yn tanio’r chwyldro diwydiannol a chynnyrch Cymru o haearn, dur, copr a thun yn adeiladu’r Brydain gyfoes. Roedd angen llety ar yr holl weithwyr hyn, a does dim syndod bod llawer iawn o adeiladu o gwmpas Cymru yn y 19fed Ganrif.

Croeso yn y Cymoedd

Y canlyniad, wrth gwrs, oedd y rhesi o dai teras sy’n nodweddiadol o’r ardal lle roedd y diwydiannau’n ffynnu – cymoedd De Cymru. Pan mae estroniaid yn meddwl am Gymru, bydd llawer ohonynt yn cael delwedd yn syth o gymoedd Morgannwg a Gwent fel y cawson nhw eu portreadu yn rhamantus yn y ffilm 'How Green was My Valley'?. Er bod llawer o resi o dai teras o oes Victoria yn dal i’w gweld fan hyn, mae’n dipyn o job i ddod o hyd i dy sydd heb ei drawsnewid dros y degawdau. Fodd bynnag, fe lwyddodd Y Ty Cymreig i ddarganfod enghraifft arbennig yn Llwynypia yn y Rhondda.


Cannoedd o filltiroedd i’r gogledd, ond yn eithaf agos yn nhermau’r bensaernïaeth, mae’r tai teras a adeiladwyd ar gyfer chwarelwyr Tanygrisiau. Bellach mae’r adeiladau wedi’u hailadeiladu ac yn sefyll yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Er mwyn gweld sut oedd bywyd pan oedd ein cyndeidiau’n cael bath mewn twb tun o flaen y tân, dyma’r lle i ddod.

Yn ogystal â’r tai teras y byddai un yn disgwyl gweld mewn rhaglen am gartrefi gweithwyr, ceir cwpl o dai rhyfedd. Mae Ty Uncorn yn fwthyn bychan iawn ym Mlaenau Ffestiniog â siâp pot inc ganddo, ac mae ty hyfryd wyth-ochrog â ffenestri gothig ger Trefdraeth yn Sir Benfro.

dylunio a chynhyrchu gan