Neidio at y cynnwys

S4C

Tywydd


Rhagolygon

HENO

Noson sych ar y cyfan, ond yn wyntog. Bydd y cymylau'n parhau tua'r gorllewin gydag ambell gawod o law mân dros y bryniau a ger yr arfordir. Yn y dwyrain fe ddylai'r cymylau chwalu gyda chyfnodau clir yn datblygu. Noson fwyn â'r tymheredd ar ei isaf rhwng 8°C a 10°C.

BORE YFORY

Bore gwyntog i'r mwyafrif, fe ddylai fod yn sych ar wahân i ambell gawod ger arfordir y gorllewin. Yn fwy cymylog tua'r gorllewin, cyfnodau heulog o bosib o hyd yn y canolbarth a'r dwyrain.

PRYNHAWN YFORY

Pnawn gwlyb a gwyntog. Bydd glaw yn cyrraedd ardaloedd y gorllewin yn gyntaf cyn lledu ar hyd y wlad yn ystod y pnawn. Gwyntoedd cryfion o amgylch arfordiroedd y de a'r gorllewin. Ond, erbyn diwedd y pnawn fe ddylai droi'n sychach yn Sir Benfro a Cheredigion cyn clirio'n gyfan gwbl erbyn min nos. Y tymheredd ar ei uchaf o gwmpas 11°C a 13°C.

DYDD GWENER

Sych ar y cyfan gyda 'sbeidiau heulog, glaw gyda'r hwyr. 12°C - 13°C.

DYDD SADWRN

Cymylog gydag ambell gawod o law mân. 11°C - 13°C.

DYDD SUL

Glaw mân yn y bore, ysbeidiau heulog erbyn y pnawn. 11°C - 12°C.

 

RHAGOLYGON GAN CHRIS JONES

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales