
Daw Chris yn wreiddiol o Aberaeron yng Ngheredigion. Ar ôl graddio o Goleg Normal Bangor mewn Cyfathrebu a Darlledu dechreuodd Chris ar ei yrfa fel gŵr camera gan deithio o amgylch Cymru, Ewrop a’r byd.
Daeth Chris yn rhan o dîm cyflwyno'r tywydd ar S4C ‘nôl yn Haf 1991, a phedair blynedd ar bymtheg yn ddiweddarach mae’n parhau i fwynhau’r sialens yn fawr iawn.
Yn ogystal â chyflwyno’r tywydd, mae Chris hefyd yn cynhyrchu a chyfarwyddo rhaglenni a deunydd hyrwyddo ar gyfer S4C a nifer o gleientiaid corfforaethol.
Ar ôl cyfnodau yn byw ym Mangor a Chaerdydd mae Chris bellach wedi ymgartrefu yn ôl ger y môr, a hynny ym Mro Morgannwg. Mae ei ddiddordebau’n cynnwys cerdded, gwaith gwirfoddol, ffilmiau, garddio, dysgu chwarae’r dryms, a threulio cyn gymaint o amser ag sy’n bosib gyda'i 4 o blant a Jac y ci bach newydd… ac wrth gwrs, y tywydd. . . yn arbennig tywydd eithafol! Ei freuddwyd pennaf yw teithio i America i ddilyn corwyntoedd!
Merch ffarm o Fynachlog-Ddu, Sir Benfro yw Mari Grug. Bu’n ddisgybl yn Ysgol y Preseli cyn mynd ymlaen i Goleg Prifysgol Cymru Caerdydd i astudio’r Gymraeg.
Cafodd Mari flas cynnar ar fyd teledu pan gafodd gyfle i actio rhan Catrin yn y gyfres ddrama 'Darn o Dir' ar S4C. Ar ôl graddio dechreuodd Mari ar ei gyrfa fel cyflwynydd gyda Planed Plant.
Yna yn Nhachwedd 2007 ymunodd Mari â thîm Tywydd S4C wrth iddynt lansio’r gwasanaeth ar ei newydd wedd. Ynghyd â chyflwyno’r Tywydd mae Mari hefyd wedi bod yn rhan o dîm cyflwyno’r Sioe Fawr, Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, Yr Ŵyl Gerdd Dant ac erbyn hyn mae’n un o wynebau Digwyddiadau 10 S4C.
Pan nad yw Mari’n gweithio mae’n mwynhau mynd allan am fwyd, mynd adref i Sir Benfro i weld ei theulu, ac unrhyw beth sy’n ymwneud â cherddoriaeth a phan fo amser yn caniatáu, glanhau’r tŷ!
Daw Erin Roberts yn wreiddiol o Bontllyfni ger Caernarfon, ac wedi cyfnod yn Ysgol Syr Hugh Owen Caernarfon treuliodd dair blynedd ym Mhrifysgol Lerpwl yn astudio Daearyddiaeth. Tra’n pendroni ar yrfa penderfynodd ddilyn cwrs ymarfer dysgu, ac fe arweiniodd hyn at ddeng mlynedd fel athrawes, yn gyntaf yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ac yna’n Ysgol Gyfun Rhydfelen.
Yn 2004 ar ôl blynyddoedd lawer o ymddiddori yn y broses o ragweld y tywydd, dechreuodd weithio fel cyflwynwraig achlysurol i'r gwasanaeth tywydd ar S4C, diddordeb a ddatblygodd yn swydd llawn amser yn 2007.
Yn ogystal â’r tywydd mae’n mwynhau pob agwedd ar Ddaearyddiaeth ac wedi cyfrannu nifer o eitemau yn ddiweddar i raglen Wedi 3 ar ddaeareg ac amgylchedd naturiol Cymru. Mae’n gefnogwr brwd o dimau pêl-droed Everton a Chymru ac yn mwynhau rhedeg i gadw’n heini. Ei diddordebau eraill yw byd ffilmiau a theithio – yn arbennig i’r Eidal pan fo amser yn caniatáu.
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales