Yr Arglwydd Rhys 1132-1197
Cyflwyniad
Teyrnasiad: 1155-1197
Tiriogaeth: Y Deheubarth
Ei enw llawn oedd Rhys ap Gruffudd.
Rhys oedd Tywysog y Deheubarth ac wedi ei benodi yn Ustus De Cymru gan Frenin Lloegr, yr unig Dywysog Cymreig i gael ei benodi felly gan y Brenin.
Yr Arglwydd Rhys oedd yn gyfrifol am gynnal yr Eisteddfod gyntaf, a gynhaliwyd yng Nghastell Aberteifi yn 1176 ac yn ôl y sôn fe gafodd ei ysbrydoli gan ddigwyddiadau tebyg yn Ffrianc.
Roedd Rhys yn gyfrifol am hybu Urdd Fynachaidd y Sistersiaid yng Nghymru gan arwain y ffordd i lawer o Dywysogion Cymreig eraill ac adeiladu Abaty rhyfeddol Ystrad Fflur.
Ivor Davies
Yr Arglwydd Rhys
Pigment pur pridd melyn ar gesso ar sachliain
138 x 164cm
Ffotograffiaeth: Marian Delyth