Neidio at y cynnwys

S4C

Cyfranwyr y gyfres

Dr Richard Wyn Jones

Dr Richard Wyn Jones o Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Cymru, Aberystwyth, sy’n cyflwyno’r gyfres. Mae’n Gyfarwyddwr ar Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ac mae o wedi cyhoeddi ar bob agwedd o wleidyddiaeth Cymru. Tywysogion oedd ei brofiad cyntaf o gyflwyno cyfres hanes swmpus.

Yr Athro Huw Pryce

Mae’r Athro Huw Pryce o Ysgol Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Cymru, Bangor, yn gyfrifol am sgriptio’r gyfres a fo hefyd ydi awdur y llyfr Tywysogion. Mae o wedi ymchwilio yn helaeth ar hanes Cymru’r Oesoedd Canol, yn arbennig ar yr eglwys, cyfraith y Cymry, llythrennedd a hunaniaeth, a Gerallt Gymro. Yn ogystal, mae o wedi golygu casgliad o ffynonellau, sef dros 600 o siartiau, llythyrau a dogfennau eraill y tywysogion Cymreig o 1120 hyd goncwest Edward I yn 1282-3.

Ifor Davies

Artist o Benarth ydi Ifor Davies a fo sydd wedi creu’r darluniau sydd i’w gweld yn y gyfres a’r llyfr. Gan ddefnyddio’r ychydig dystiolaeth sydd gennym o sut oedd y tywysogion yn edrych, mae Ivor Davies wedi rhoi ffurf a bywyd i bob un.

Spencer Smith

Daeth arbenigedd archeolegol y gyfres a’r llyfr gan Spencer Smith, archeolegydd ifanc a weithiodd ar y gyfres am bron i dair blynedd. Mae ei waith ar safleoedd Sycharth a Tatsfield, Surrey, wedi creu cryn ddiddordeb yn ei faes, ac mae ei grynodebau o hanes archeolegol tywysogion y gyfrol yn ategu’n fawr at gyd-destun daearyddol ein hanes.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales