Neidio at y cynnwys

S4C

Yr Oesoedd Canol

Enwogrwydd...

Tra nad yw’r merched hyn yn rhannu yr un proffil mewn hanes â’u tywysogion, mae un neu ddau o eithriadau. Un ddynes ddaeth yn enwog ei hun oedd Siwan ddaeth yn amlwg yn yr ugeinfed ganrif yn nrama enwog Saunders Lewis ‘Siwan’.

Mae gwrthdaro carwriaethol yn ganolog i’r ddrama. Roedd Siwan yn briod â Llywelyn ond roedd yn caru Gwilym Brewys ar yr un pryd, neu William de Braose fel y’i gelwid yn Saesneg. Daeth y berthynas i ben pan y bu i William gael ei grogi gan Llewelyn. Fe wnaeth faddau i Siwan – ac fe newidiodd gyfraith a threfn y wlad fel bod ei blant gan Siwan yn etifeddu ei deitl, yn hytrach na’i blant anghyfreithlon hyn.

Roedd Siwan yn bwyisg mewn ffyrdd eraill hefyd. Dylanwadodd gynnwys yr ysgrifau cyfreithiol, gan osod rheolau ynddynt yn ymwneud â statws ei chartref a’r staff y dylai fod yno.

Merch ddylanwadol arall oedd hen wyres Llywelyn a merch Llywelyn ap Gryffudd (llyw olaf) a’i wraig Eleanor de Montford, sef Gwenllian. Mae ganddi gymdeithas hanesyddol wedi ei sefydlu er parch iddi yn ogystal â chofeb yn Sempringham, Lincolnshire, lle y treuliodd ei bywyd wedi ei charcharu mewn lleiandy. Fe’i cymerwyd yno pan yn chwech mis oed. Nid oes record llawn o fywydau ei chyfnitherod (chwech o ferched Dafydd ap Gruffudd, brawd ieuengaf Llywelyn). Y cyfan sy’n wybodaeth yw eu bod wedi gorffen eu bywydau mewn lleiandy yn Sixhills, Lincolnshire.

Mae pwer a chyfraniad merched eraill yn dod yn fwy amlwg i ni wrth i ni ddod i ddeall mwy am eu gwyr. Roedd Cecilia sef gwraig Thomas ap Rhodri (nai Llywelyn ap Gruffudd) yn ffrances. Er gwaethaf newyn a phla’r bedwaredd ganrif ar ddeg, bu Cecilia fyw ymhell i’w 70au a bu farw yn 1361. Darganfuwyd dau sgerbwd wedi eu claddu yng nghangell yr Eglwys yn Tatsfield, Surrey yn y 1960au – lle roedd llys Thomas. Credir mai sgerbydau Cecilia a Thomas oeddent.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales