Yr Oesoedd Canol
Cariad...
Falle bod yr ateb i’r cwestiwn ar ddiwedd yr adran flaenorol yn syml – falle bod Elizabeth mewn cariad â Dafydd a’n ddall i’w feiau.
Mae’n bosib y gellir cynnig yr un eglurhad o ran teimladau Llywelyn ap Iorwerth tuag at Siwan. Er bod Siwan wedi cael carwriaeth â William de Braose tra’n briod i Llywelyn, pan y bu farw fe dalodd Llywelyn am briordy yn Llanfaes ar Ynys Môn lle claddwyd Siwan. Roedd caead ei harch o’r safon uchaf, a’n dal i fodoli yn Eglwys Biwmares erbyn hyn. Mae’n bosib bod marwolaeth Siwan wedi effeithio ar Llywelyn gymaint fel na fuodd fyth wella o drawiad ar ei gallon.
Roedd cariad Gruffydd ap Cynan (1055-1137) hefyd yn amlwg at ei wraig. Pan y bu Gruffydd farw, gadawodd borthladd Abermenai ar Ynys Môn iddi.