Yr Oesoedd Canol
Byth yn ragweladwy...
Ymddengys bod Cecilia wedi cael bywyd gweddol dawel, er, doedd priodi fewn i deulu brenhinol byth yn brofiad rhagweladwy. Bu i Emma ab Anjou, hanner chwaer Brenin Henry II o Loegr, briodi Dafydd ab Owain (m 1203), un o feibion Owain Gwynedd. Treuliodd Emma lawer o’i bywyd priod fel alltud yn Swydd Amwythig wedi i’w gwr gael ei daflu o’i gartref gan aelodau o’i deulu.
Weithiau, ymddengys priodi i fewn i deulu brenhinol Cymreig i fod yn brofiad trafferthus. Roedd Isabella de Braose yn briod i Dafydd ap Llywelyn, brawd ieuengaf Llywelyn ap Iorwerth. Bu i Dafydd farw’n ifanc o glefyd straen. Doedd ganddo ef ac Isabella ddim plant felly fe rannwyd tiroedd Gwynedd rhwng meibion brawd hynaf Dafydd sef Gruffydd.
Profodd Eleanor de Montford, gwraig Llywelyn ap Gruffydd, fywyd cythryblus a hynny ers i’w theulu ddechrau ymwneud â’r Cymry. Cipiwyd Eleanor a’i brawd gan wyr Edward I o’r gwch yr oedd yn ei chludo i Gymru i briodi Llywelyn. Bu i Eleanor a Llywelyn briodi yn y pen draw ar ddiwrnod yn ôl dewis ei chefnder, Edward.
Treuliodd Elizabeth de Ferres, gwraig Dafydd ap Gruffydd (sef brawd ieuengaf Llywelyn ap Gruffydd) y rhan fwyaf o’i bywyd priod ar feysydd adeiladu cestyll Rhuthun a Chaergwrle. Eu hunig seibiant oedd pan y buont yn treulio amser yn eu stâd yn Frodsham. Daeth Elizabeth â thir o Norfolk fel rhan o’i gwaddol priodas, a gafodd ei gyfnewid am dir yn Northhampton. Tybed a fyddai Elizabeth wedi mwynhau bywyd gwell yn Lloegr?