[an error occurred while processing this directive]

Yr Oesoedd Canol

Gemau pwer a thywysogesau

Roedd Cymru yn ystod y Canol Oesodd yn le diddorol ond peryglus i fod ynddi. Arferai Dywysogion a Thywysogesau ifanc frwydo yn erbyn ei gilydd, gan gyfnewid cyfeillion a pherthnasau ar gyfer pwer.

Roedd yr archaeolegydd Spencer Smith yn aelod allweddol o dîm cynhyrchu’r gyfres Tywysogion. Torrodd Spencer dir newydd yn ei astudiaethau o safleoedd Cymreig gan gynnwys cartref Owain Glyn Dwr yn Sycharch, canolbarth Cymru.

Yma, ceir hanes Spencer am arwresau di-glod y Canol Oesoedd – y mamau, merched, chwiorydd, cariadon a gwragedd – oedd yn llawer iawn mwy dylanwadol nag y dychmygir gennym.

Gan eithrio ychydig, mae hanes ac archaeoleg Cymru’r Canol Oesoedd wedi ei astudio a’i ysgrifennu amdano gan ddynion canol oed. Mewn cyfnod lle roedd tynnu llygaid a cheilliau yn gyffredin ar gyfer delio â chystadleuaeth wleidyddol, pa bwrpas oedd i ferched yn y gymdeithas yma? Sut y gallwn ddarganfod mwy am eu bywydau, pan ni chofnodwyd manylion mor syml â’u cyfenwau?

Daeth y merched yma o wledydd a gwahanol gefndiroedd. Roedd rhai megis Emma Audley, gwraig Madog ap Gruffydd, tywysog Powys yn y drydedd ganrif ar ddeg yn Saesneg. Eraill megis Margaret Hanmer, gwraig Owain Glyn Dwr, yn dod o gefndir cymysg, gyda rhieni Saesneg a Chymraeg – enw Cymraeg Margaret oedd Marred ferch Dafydd. Roedd Joan, gwraig Llywelyn ap Iorwerth yn ferch i Frenin John, Lloegr a’i feistres Ffrengig a Ffrangeg oedd ei hiaith gyntaf. Mae’n ddigon posib mai Ffrangeg oedd iaith ei chartref priodasol hefyd.

Yr hyn sydd wedi amlygu’i hun yw’r rôl y chwaraeodd y merched hyn yn y gymdeithas Gymreig. Roedd y merched hyn yn wragedd, mamau, mistres, neu’n wraig i Gruffydd ap Rhys fel Gwenllian. Yn 1135, tra roedd ei gwr yn Ngogledd Cymru yn chwilio am gefnogaeth ar gyfer gwrthryfel yn erbyn unbeniaid Normanaidd y Deheubarth, arweiniodd Gwenllian fyddin yn erbyn Castell Cydweli. Collodd ei bywyd yn y frwydr hon – fe’i lladdwyd gan filwr o’r enw Maurice de Londres, ac fe adwaenir y man lle y disgynnodd yn Faes Gwenllian ers y dyddiad hwn.

[an error occurred while processing this directive]