Neidio at y cynnwys

S4C

Hywel Dda m. 950

Pwy oedd Hywel Dda felly?...

Mae nifer o bobl ifanc yn cymeryd ‘blwyddyn bwlch’ i fynd ar daith i lefydd fel Gwlad Thai neu Awstralia cyn cychwyn mewn swydd ar ôl astudio yn y brifysgol. Ond be am gymeryd amser allan o fod yn bennaeth ar eich gwlad? Mae croniclau hanes Cymru yn ystod yr oesoedd canol yn nodi fod Hywel ap Cadell, neu Hywel Dda, yn mynd ar bererindod i Rhufain yn ystod ei amser fel brenin ar rhan helaeth o Gymru. Sut allai Hywel wneud hyn heb golli ei dir i dywysog arall, a sut le adawodd Hywel pan aeth i Rhufain?

Roedd Hywel yn deall yn iawn pa fath o dywysogaeth yr oedd wedi etifeddu, un oedd a ffiniau hyblyg a poblogaeth oedd yn pryderu am ymosodiadau y Llychlynwyr a hefyd mewnfudiad treiddiol y byd Anglo Sacsonaidd. Yr roedd rhaid i Hywel gydweithio ynghyd â thywysogion eraill Cymru, ac ar yr un pryd, gydweithio â brenin Athelstan o Lloegr. Gwelir enw Hywel yn cael ei gofnodi ar siarteri Anglo Sacsonaidd fel ‘Is-Frenin’ i Athelstan ac hefyd mae un darn o arian a ddarganfuwyd yn ninas Caer, darn a elwir heddiw yn Geiniog Hywel Dda yn dangos bod darnau arian yn cael ei bathu ar gyfer Hywel o dan ganiatâd Athelstan, er dim ond un sydd wedi ei ddarganfod hyd yma.

Mae archeoleg yng Nghymru hefyd yn help i ddangos pa fath o fyd yr oedd Hywel a’i gyfoeswyr yn reoli. Mae gwaith archaeolegol diweddar yn Llanbedrgoch, Ynys Môn a Crannog Llangors, Brycheiniog yn dechrau dangos y cysylltiadau yr oedd y bobl yma yn greu drwy fasnach a gwledydd eraill yn Ewrop. Mae hefyd yn dangos doniau y crefftwyr yr oedd y Tywysogion yn gyflogi i greu gwaith cain iddynt.

I’r rhan fwyaf o bobl mae Hywel Dda yn enwog am ei gyfreithiau. Er bod haneswyr wedi profi bod y cyfreithiau wedi dod at ei gilydd ar ôl cyfnod Hywel, mae tystiolaeth yn bodoli i ddangos bod rhai o’r cyfreithiau â gwreiddiau yn nghyfnod Hywel. Roedd ei gyfreithiau yn rhoi statws i ferched nad oeddynt yn cael yn Lloegr yn yr un cyfnod, a pharhaodd y cyfreithiau mewn defnydd dan amgylchiadau penodol hyd at ddiwedd y bymthegfed ganrif.

Gan greu tywysogaeth gryf a chyfoes, roedd Hywel yn gallu mynd ar bererindod i Rufain fel rhan ganolog o’i grefydd, a gweld byd y tu allan i Gymru.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales