Llywelyn ein Llyw Olaf c.1225-1282
Pwy oedd Llywelyn ein Llyw Olaf felly?...
Gellir edrych ar hanes Llywelyn ein Llyw Olaf, neu i ddefnyddio ei enw cywir, Llywelyn ap Gruffudd, fel un trist a thosturus. Er fod pawb yn gwybod arwyddocad digwyddiad yng Nghilmeri yn mis Rhagfyr 1282, mae’r stori yn gymleth ac yn llawn hanesion daw i’r wyneb saith gan mlynedd yn ddiweddarach. Rhaid cofio mai un o bedwar mab oedd Llywelyn a plethir hanes yr holl feibion yn dywysogion olaf Gwynedd, nad yw’n gorffen yng Nghymru, ond o flaen castell Mortagne, ger Bordeaux yn Ffrainc bron gan mlynedd yn ddiweddarach wedi marwolaeth Llywelyn.
Mae stori’r brodyr Owain, Llywelyn, Dafydd a Rhodri yn dangos sut oedd Coron Lloegr, o dan arweiniad Harri’r III a wedyn Edward I, yn ymyrryd ar dywysogaeth Gwynedd drwy gymysgedd o ddulliau cyfreithiol a ffafriaeth. Effeithiodd yr ymyrraeth yma’n sylweddol ar berthynas y brodyr oedd yn weithiau’n gefnogol ac o bryd i’w gilydd yn gwrthwynebu ei gilydd.
Nid yw’r dystiolaeth am Dafydd ap Gruffudd yn eglur iawn felly ef yw’r cymeriad mwyaf cymleth o’r holl brodyr. Does dim amcan gennym beth oedd amcanion personol Dafydd na’i weledigaeth am Gymru a Gwynedd. Cydweithiodd Dafydd gyda Owain i geisio cael gwared o Llywelyn ond yn y diwedd, pan carcharwyd Owain am dros ugain mlynedd gan Llywelyn, trodd Dafydd i gydweithio gyda Llywelyn, er roedd dal ganddo agenda bersonol yn ystod yr adeg yma.
Un brawd sydd heb gael llawer o sylw yw Rhodri ap Gruffudd. Treuliodd ei blentyndod a’i arddegau fel carcharor gwleidyddol a ga’i ddefnyddio fel rhan o fargeinion. Ar ôl y flwyddyn 1272, priododd i fewn i deulu Seisnig yn Sir Gaer a byw fel Uchelwyr Saesneg.
Adeiladodd Thomas, sef mab Rhodri, tŷ newydd yn Tatsfield, Sir Surrey a byw yno gyda’i wraig a’i blant, yn wahanol iawn i’w gefnder Owain, mab Dafydd ap Gruffudd a gafwyd yn garcharor yng Nghastell Bryste tan iddo farw. Dewisodd mab Thomas, sef Owain Lawgoch, mynd i ymladd gyda Brenin Ffrainc yn erbyn Goron Lloegr. Collodd ei ystadau yn Lloegr a dymchwelwyd holl dai ar un ystad i ddangos grym y Goron. Yn 1378, llofruddwyd Owain Lawgoch wrth iddo arwain ymgyrch yn erbyn castell Mortagne-sur-Gironde. Er arddangoswyd penglogau Llywelyn a Dafydd ar Bont Llundain, ar lannau’r afon Gironde mae diwedd y stori.