Neidio at y cynnwys

S4C

Llywelyn Fawr 1173-1240

Cyflwyniad

Teyrnasiad: 1200-1237

Tiriogaeth: Gwynedd

Ei enw llawn oedd Llywelyn ap Iorwerth ac, ym marn nifer o sylwebyddion, Llywelyn Fawr oedd y tywysog a gyflawnodd fwyaf yng Nghymru’r Oesoedd Canol.

Roedd yn arweinydd milwrol galluog, yn ddiplomydd pwyllog a oedd yn awyddus i foderneiddio ei dywysogaeth.

Roedd Llywelyn yn briod gyda Siwan, merch Y Brenin John.

Mae gweddillion rhai o’r cestyll a gododd Llywelyn yng Ngwynedd, fel Dolbadarn, i’w gweld hyd heddiw.

Ivor Davies
Llywelyn Fawr
Tempera ar gesso ar sachliain
183 x 285cm
Ffotograffiaeth: Marian Delyth

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales