Owain Gwynedd d.1170
Cyflwyniad
Teyrnasiad: 1137-1170
Tiriogaeth: Powys, Gwynedd
Owain oedd mab Gruffudd ap Cynan ac yn ystod ei deyrnasiad llwyddodd i ehangu ar y grym yr oedd ei dad wedi ennill. Bu’n brwydro’n hir a llwyddiannus yn erbyn y Normaniaid ac mae ei gyfnod fel tywysog yn cael ei adnabod heddiw fel oes aur yn hanes llenyddiaeth Cymru.
Ef oedd y cyntaf i alw ei hun yn dywysog Cymru yn hytrach na brenin, a hynny mae’n debyg am fod cymaint o fân arglwyddi yn galw eu hunain yn frenhinoedd.
Ivor Davies
Owain Gwynedd
Olew ar gesso ar sachliain
134 x 193cm
Ffotograffiaeth: Marian Delyth