Owain Glyn Dŵr c.1359-1416
Pwy oedd Owain Glyn Dŵr felly?...
Ar ddydd Iau, 16 Medi 1400, daeth criw o ddynion at ei gilydd mewn lle o’r enw Glyndyfrdwy rhang Corwen a Llangollen lle cyhoeddwyd Owain Glyn Dwr yn dywysog Cymru.
Mae hanes Owain Glyn Dŵr yn un enwog iawn i’r rhan fwyaf o Gymry, ond mae’r pwyslais hyd yma wedi bod ar ddilyn hanes Owain cyn y chwyldro a roddodd ei enw iddo. A pham lai? Mae Shakespeare yn defnyddio Glyn Dŵr fel cymeriad yn un o’i ddramâu, ac mae’r baneri sydd arddangos ei arfbais wedi dod yn rhan o symbolau amlwg ein cenedl.
Mae un rhan o hanes Glyn Dŵr cyn y chwyldro yn dangos sut all gyfuno hanes ac archeoleg helpu i ateb cwestiynau am y gwr hwn a’i deulu yn ogystal â cheisio deall y byd yn ystod y cyfnod hwn. Un ffordd o edrych ar hanes y cyfnod yw trwy ddefnyddio cywyddau gafodd eu hysgrifennu am gartrefi rhai uchelwyr yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae cywydd ‘Llys Owain Glyn Dŵr yn Sycharth’ gan y bardd Iolo Goch yn disgrifio sut olwg oedd i’r llys oedd yn dyddio nôl i 1390.
Trwy darllen beth ysgrifennodd Iolo wedi iddo ymweld â Sycharth, mae’n bosib dechrau deall disgrifiad Iolo a defnyddio technolegau archeolegol er mwyn llenwi’r bylchau o ran hanes y safle. Defnyddiwyd y gerdd ynghyd â gwaith ymchwil archeolegol o’r 1960au a’r 1990au i ail-greu delweddau o sut y bu Sycharth yng nghyfnod Glyn Dwr.
Bu ail-greu safle Sycharth yn gam mawr ymlaen yn y ddadl am pa mor soffistigedig oedd y Cymry yn ystod yr Oesoedd Canol. Gwyliwch y rhaglen olaf yn y gyfres i weld y gwaith hwn.