Neidio at y cynnwys

S4C

Y Gyfres

Cariad a chasineb, pwer a thrais, teulu ac etifeddiaeth, mae taith trwy hanes saith o dywysogion Cymreig yn llawn cyffro ac emosiwn.

Ceir portreadau o Hywel Dda, Gruffudd ap Cynan, Owain Gwynedd, Yr Arglwydd Rhys, Llywelyn ap Iorwerth, Llywelyn ap Gruffudd ac Owain Glyn Dŵr. Defnyddir lluniau ail-greu cyfrifiadurol o'u cestyll a'u cartrefi, cyfweliadau gydag arbenigwyr a theithiau Dr Richard Wyn Jones i'r lleoliadau pwysicaf. Mae cyfle hefyd i weld archeolegwyr wrth eu gwaith ar rai safleoedd.

Deall y tywysogion - a'u cyfnod ...

Mae eu stori yn gyffrous a soffistigedig a’n rhan o hanes ehangach Ewrop.

“Roedd gorwelion tywysogion megis Hywel Dda, yr Arglwydd Rhys a Gruffudd Cynan yn rai Ewropeaidd; a roedden nhw am weld Cymru yn bresenoldeb ar y llwyfan Ewropeaidd honno,” eglura Richard o Brifysgol Aberystwyth.

“Roedd eu gwragedd yn rhan o’r byd soffistigedig hwnnw hefyd. Roedd Siwan, er enghraifft, gwraig Llywelyn Fawr, yn ddylanwadol iawn ac mae’n debyg mai ei mamiaith hi, Ffrangeg, oedd iaith y llys. Roedd Angharad, gwraig Gruffudd ap Cynan yn ddiplomydd o fri hefyd ac roedd Gruffudd yn dibynnu’n fawr arni.”

Mae’r gyfres, a gynhyrchwyd gan Ffilmiau’r Bont, yn olrhain hanes saith tywysog Cymreig, o gyfnod teyrnasiad Hywel Dda (910-950) hyd at wrthryfel Glyndwr yn y pymthegfed ganrif.

Mae’n dechrau gyda Hywel Dda, nid adref yn ei lys yn Hendy-Gwyn ar-Daf, ond yn derbyn awdurdod y Pab yn Rhufain. Roedd Hywel yn hoff iawn o Ewrop – gadawodd Cymru ar ‘flwyddyn fwlch’ drodd yn bererindod bedair blynedd o hyd.

O Ffrainc ddaeth yr Eisteddfod?!...

Does dim symbol mwy Cymreig na’r Eisteddfod, ond faint sy’n gwybod mai benthyg y syniad o Ffrainc a wnaeth yr Arglwydd Rhys, y tywysog a ystyrir yn sylfaenydd y traddodiad eisteddfodol. At Frenin Ffrainc, ganrifoedd yn ddiweddarach, y trodd Owain Glyn Dwr hefyd i gael help i frwydro’r Saeson.

Barddoniaeth...

Un sialens oedd yn wynebu’r tîm cynhyrchu oedd bod cyn lleied o ddogfennau gwreiddiol ar gael o’r cyfnod.

“Dyna yn aml yw’r stori gyda gwledydd sydd wedi eu gorchfygu,” eglura’r archeolegydd Spencer Smith, un o gyfranwyr y gyfres.

Torrodd Spencer dir newydd yn ei waith ar safleoedd Cymreig megis llys Owain Glyn Dwr yn Sycharth ac mae’n cydnabod ei ddyled i draddodiad barddol Cymru.

“Mae barddoniaeth o Oes y Tywysogion yn bwrw goleuni ar ein hanes. Wrth gymharu, er enghraifft, disgrifiadau Iolo Goch o Sycharth â phatrwm y lleoliad, fe sylweddolon ni mor fanwl gywir oedd disgrifiadau’r bardd o’r 15fed ganrif.”

Nid barddoniaeth Gymraeg yn unig oedd o gymorth i’r cynhyrchwyr – mae nifer o gerddi o Norwy yn bodoli am frwydr Gruffudd ap Cynan (1055-1137) yn Aberlleiniog, Ynys Môn.

Enghraifft arall o gysylltiadau Ewropeaidd arweinwyr Cymru oedd bod y Llychlynwr Magnus Goesnoeth yn un o gefnogwyr Gruffudd. Daeth i Gymru i helpu Gruffudd guro Iarll Amwythig a Iarll Caer yn y frwydr bwysig hon.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales